Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansio Addewid Coetir Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Lansio Addewid Coetir Wrecsam
Y cyngor

Lansio Addewid Coetir Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 11, 2022 11:28 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Change
RHANNU

Rydym i gyd yn gwybod bod angen plannu mwy o goed er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, lleihau ein hôl-troed carbon a diogelu cynefinoedd i bobl a bywyd gwyllt.

Cynnwys
  • Mae’r Addewid Coetir yn bwysig
  • 1. Creu coetir
  • 2. Cadwraeth coetir
  • 3. Dathlu coetir
  • 4. Cymeradwyo coetir

Rydym yn mynd gam ymhellach nawr er mwyn dangos ein hymrwymiad i gefnogi Wrecsam mwy glân a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, trwy lansio ‘Addewid Coetir’.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Rydym yn cydnabod bod coed a choetiroedd yn rhan hanfodol o’n trefi a chefn gwlad, felly rydym wedi datblygu ‘Addewid Coetir’ i ddangos ein hymrwymiad i gynyddu gorchuddion canopi’r coed a diogelu coetir newydd a phresennol ar draws y fwrdeistref sirol.

Meddai’r Cyng. David A Bithell, Cefnogwr Hinsawdd, “Mae Coed a Choetiroedd yn gynefinoedd pwysig i amrywiaeth lawn o fywyd gwyllt, gan chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd; ac maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer ein hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Ni allwn gymryd eu dyfodol yn ganiataol.”

Mae’r addewid hefyd yn helpu pobl i fynd allan i’r awyr agored i fwynhau coed a choetiroedd yn eu cymdogaeth. Bydd nifer o ddigwyddiadau ar gael i ddysgu mwy am ein coed a’n coetiroedd yn ystod yr hydref a’r gaeaf, gan gynnwys diwrnodau plannu coed, llwybr coed y ddinas a sesiynau crefft tymhorol. Caiff pob un o’r digwyddiadau hyn eu hysbysebu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy rhestr bostio’r Addewid.

Mae’r Addewid Coetir yn bwysig

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae coed yn rhan mor bwysig o’n hamgylchedd ac rydym yn falch iawn o ddiogelu’r coed sydd gennym yn ogystal â chreu coetiroedd newydd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r Addewid Coetir yn bwysig oherwydd mae’n hawdd cofrestru i ddysgu mwy am ein coetiroedd. Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu’r cynefinoedd hanfodol hyn am genedlaethau i ddod.”

Rydym yn annog pawb i ymuno â’r addewid, gan gynnwys rhai sy’n rhan o fusnes lleol, grŵp cymunedol neu sefydliad.

Trwy gofrestru i’r addewid, byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio, a gallwch ganfod sut i gymryd rhan mewn 4 ffordd wahanol:

1. Creu coetir

Plannu coed i greu coetir newydd neu ymestyn coetiroedd presennol ar draws Wrecsam. Ein helpu i blannu rhagor o goed trwy ymuno ag un o’n cynlluniau plannu coed ar draws y sir.

2. Cadwraeth coetir

Diogelu a gwella ardaloedd coetir presennol ar gyfer bioamrywiaeth, adfer newid hinsawdd a sicrhau cynefinoedd o ansawdd da.

3. Dathlu coetir

Caniatáu cyswllt â natur mewn coetiroedd ar gyfer iechyd, lles, chwarae ac addysg.

4. Cymeradwyo coetir

Deall pa mor werthfawr yw coed a choetiroedd i’n bywydau bob dydd.

Gallwch ddarllen mwy am Addewid Coetir Wrecsam yn ogystal â chofrestru ar gyfer y rhestr bostio ar ein gwefan. Neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter ar Addewid Coetir Wrecsam/Wrexham Woodland Pledge.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Woodland Trust Hwb o £290,000 mewn cyllid i gynyddu gorchudd coed ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn Wrecsam.
Erthygl nesaf CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English