Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu
Busnes ac addysg

CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 12, 2022 11:57 am
Rhannu
Darllen 6 funud
CThEF yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad y gallai twyllwyr eu targedu
RHANNU

Erthyl Gwaadd: Mae CThEF yn annog cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr a sgamiau sy’n gofyn am fanylion personol neu fanylion banc.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhybuddio cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr, wrth iddynt ddechrau meddwl am eu Ffurflenni Treth blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth 2021 i 2022.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol? Dilynwch y cyfarwyddiadau fel ein bod ni’n gwybod eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i bleidleisio.

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst 2022, gwnaeth CThEF ymateb i dros 180,000 o atgyfeiriadau gan y cyhoedd a oedd yn ymwneud â chysylltiadau amheus. Roedd 81,000 o’r cysylltiadau hyn yn sgamiau a oedd yn cynnig ad-daliadau treth ffug.

Mae troseddwyr, sy’n honni eu bod yn gweithio i CThEF, wedi targedu unigolion drwy e-byst, negeseuon testun a galwadau ffôn. Mae’r rheswm dros y cysylltiadau hyn yn amrywio o gynnig ad-daliadau treth ffug i fygwth arestio pobl am osgoi treth. Dylech fod yn hynod wyliadwrus rhag cysylltiadau o’r fath – ni fyddai CThEF yn eich ffonio a bygwth eich arestio ar unrhyw adeg.

Os bydd rhywun, sy’n honni ei fod yn gweithio i CThEF, yn cysylltu â chi mewn ffordd amheus, dylech bwyllo a phori drwy’r cyngor ar sgamiau sydd ar gael ar GOV.UK.

Gall cwsmeriaid roi gwybod i CThEF am unrhyw weithgareddau amheus. Gallant anfon negeseuon testun amheus sy’n honni eu bod yn dod oddi wrth CThEF i 60599, ac e-byst i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk. Gellir rhoi gwybod i CThEF am unrhyw alwadau ffôn twyllodrus wrth ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar GOV.UK.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid. “Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro ar unrhyw adeg. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, gan honni ei fod yn gweithio i CThEF a’i fod am i chi drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol, byddwch yn wyliadwrus.

“Ni fydd CThEF yn eich ffonio a bygwth eich arestio ar unrhyw adeg. Dim ond troseddwyr sy’n gwneud hynny.

“Mae sgamiau treth yn gallu amrywio. Mae rhai yn bygwth eich arestio ar unwaith am osgoi treth, tra bod rhai eraill yn cynnig ad-daliad treth. Dylech fod yn hynod wyliadwrus rhag cysylltiadau o’r fath, felly cymerwch bwyll a gwirio cyngor CThEF ar ‘gwe-rwydo a sgamiau’ ar GOV.UK.”

Mae twyllwyr yn targedu cwsmeriaid pan fyddant yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o gael clywed gan CThEF. Dyna pam y dylai cwsmeriaid Hunanasesiad fod yn hynod wyliadwrus rhag y gweithgareddau hyn. Mae yna risg y gallent gael eu twyllo gan negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn twyllodrus, sydd naill ai’n cynnig ‘ad-daliad’ neu’n mynnu eu bod yn talu dyled treth. Gallai hyn fod oherwydd bod y cwsmeriaid dan yr argraff mai cysylltiadau dilys oddi wrth CThEF yw’r rhain, sy’n cyfeirio at eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallai rhai cwsmeriaid, sydd heb lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r blaen, gael eu twyllo a chlicio ar gysylltiadau mewn negeseuon e-byst neu negeseuon testun twyllodrus. Wrth wneud hynny, gallent ddatgelu manylion personol neu ariannol i’r troseddwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth ar bapur ar gyfer y flwyddyn dreth 2021 i 2022 yw 31 Hydref 2022, a 31 Ionawr 2023 ar gyfer y rheiny sy’n llenwi eu Ffurflenni Treth ar-lein. Ni ddylai cwsmeriaid sy’n cyflwyno’u Ffurflenni Treth ar-lein drwy GOV.UK rannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF. Gallai rhywun sy’n defnyddio’r manylion hyn ddwyn oddi ar y cwsmer neu wneud hawliad twyllodrus yn ei enw.

Mae CThEF yn mynd i’r afael â’r sgamiau a’r twyllwyr sy’n dynwared negeseuon a gweithgareddau CThEF mewn ymgais i ymddangos yn ddilys. Mae tîm penodedig yr adran, sef y Tîm Diogelu Cwsmeriaid, yn gweithio’n ddi-dor i ddod o hyd i sgamiau a’u dileu.

Mae CThEF hefyd yn mynd i’r afael â gwefannau camarweiniol sydd wedi’u cynllunio i godi tâl ar bobl am ddefnyddio gwasanaethau a ddylai fod ar gael yn rhad ac am ddim neu am gost isel. Er enghraifft, drwy godi tâl am gysylltu cwsmeriaid â llinellau cymorth CThEF sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae CThEF yn mynd ati i herio gwefannau twyllodrus sy’n defnyddio enw neu logo CThEF a chymryd perchnogaeth ohonynt. Ers 2017, mae’r adran wedi adennill meddiant o dros 183 o wefannau a oedd yn cynnig gwasanaethau gwerth isel, megis codi tâl ar gwsmeriaid am gysylltu galwadau ffôn. Mae gwneud hyn wedi arbed miliynau o bunnoedd i bwrs y wlad.

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.householdresponse.com/wrexham “]PARATOWCH I BLEIDLEISIO[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Climate Change Lansio Addewid Coetir Wrecsam
Erthygl nesaf Reclaim Tax Wales Busnes yn Wrecsam yn dathlu carreg filltir £4 miliwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English