Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lansiwyd Maethu Cymru i gynyddu’r nifer o rieni maeth yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Lansiwyd Maethu Cymru i gynyddu’r nifer o rieni maeth yng Nghymru
Y cyngor

Lansiwyd Maethu Cymru i gynyddu’r nifer o rieni maeth yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: 2021/07/15 at 12:48 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Maethu Cymru
RHANNU

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn ‘Maethu Cymru’, wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol.

Er bod dros draean (39%) o oedolion Cymru yn honni eu bod wedi ystyried dod yn ofalwr maeth, mae yna dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn i gadw i fyny gyda’r nifer o blant sydd angen gofal a chefnogaeth, ac i ddod o hyd i ofalwyr newydd i ddisodli’r rhai sy’n ymddeol neu sy’n gallu darparu cartref parhaol i blant.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Mae’r rhwydwaith cenedlaethol newydd, ‘Maethu Cymru’, yn dwyn ynghyd y 22 o dimau maethu nid-er-elw mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gyda degawdau o brofiad, maent yn gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Yn lansio Maethu Cymru, dywedodd Julie Morgan MS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’n ffantastig i fod yn lansio Maethu Cymru. Rwy’n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall faethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy’n derbyn gofal a chaniatáu timau maethu a recriwtio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol.”

“Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau’r nifer o blant mewn gofal, gan roi gwell canlyniadau i blant sydd wedi profi gofal ac, yn bwysig, cael gwared ar yr elfen elw mewn perthynas â phlant mewn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o’r broses o gyflawni’r addewid hwn a bydd yn creu mwy o gyfle i blant aros yn eu cymuned ac yn diwallu anghenion esblygiadol plant maeth a’r bobl sy’n eu maethu.”

Ledled Cymru, mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei awdurdod lleol, felly bydd ffurfio perthnasau yn barhaus o fewn eu cymunedau lleol yn helpu Maethu Cymru i alluogi plant i aros yn eu hardal leol pan dyna’r peth iawn ar eu cyfer.

Mae timau awdurdodau lleol eisoes yn rhannu gwybodaeth drwy gyswllt rheolaidd, ond mae ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru yn camgymryd nad yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan gynghorau yn debygol o fod wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd ledled y wlad. Mae’r penderfyniad i uno’r 22 o wasanaethau maethu mewn awdurdodau lleol o dan yr enw Maethu Cymru felly yn ceisio sicrhau a gwneud chwarae teg i’r gwaith Cymru gyfan sy’n cael ei gynnal.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant, Dywedodd, “Bydd cynyddu nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth sy’n cael eu recriwtio’n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn sylweddol yn ein galluogi i gael mwy o ddewis wrth baru plentyn, ac mae dod o hyd i’r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn yn allweddol i’n nod terfynol o adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant yn ein gofal.

“Yn y mwyafrif o achosion, mae dod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy’n eu cadw yn eu hardal leol o fudd mawr. Mae’n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgol a’u synnwyr o hunaniaeth. Mae’n adeiladu hyder ac yn lleihau straen. Mae gweithio gyda Maethu Cymru yn golygu cynnig y cartref lleol iawn i blentyn sydd angen y cyfle hwnnw a chael y cymorth a hyfforddiant arbenigol lleol sydd eu hangen i roi’r sgiliau i ofalwyr maeth ar gyfer y daith o’u blaenau.”

Dywedodd Tanya Evans, aelod o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n Bennaeth Gwasanaethau Plant, “Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant. Mae yna gannoedd o blant ledled Cymru ar hyn o bryd sydd â hawl i ffynnu ac mae arnynt angen rhywun yn eu cymuned i’w cefnogi a chredu ynddynt.

“Mae chwalu’r mythau ynghylch gofal maeth yn dasg allweddol. Er enghraifft, nid oes yr un dau blentyn yr un fath ac nid yw’r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes teulu maeth ‘nodweddiadol’.

“P’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu, p’un a ydych wedi priodi neu’n sengl. Beth bynnag fo’ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned sydd angen rhywun i’w cefnogi.

“Yr oll sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a’u croesawu nhw i mewn.”

Am fwy o wybodaeth am faethu mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, ewch i

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol School Uniform Help ar gael gyda chostau gwisg ysgol a mwy yn 2021
Erthygl nesaf Covid-19 vaccination in North Wales Clinigau brechu symudol i agos yn Sir y Fflint a Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Diweddariad tywydd 5.01.26
Y cyngor

Diweddariad tywydd 5.01.26

Ionawr 5, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English