Pa unai ydym ni mewn parc gwledig, yng nghanol y ddinas neu yn un o’n pentrefi, mae’n rhaid i bawb ohonom fynd i’r lle chwech o dro i dro a defnyddio toiled cyhoeddus.
Er mwyn darganfod beth mae pobl yn ei feddwl ohonynt, rydym ni’n adolygu ein strategaeth toiledau cyhoeddus ac mae croeso i chi leisio eich barn am y sefyllfa bresennol ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn eich barn am faterion megis hylendid, cyfleusterau newid, maint y toiledau cyhoeddus, oriau agor, hygyrchedd, safon a faint y byddech chi’n fodlon ei dalu i’w defnyddio nhw.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 21 Tachwedd 2022 a 9 Ionawr 2023.
Mae’r arolwg ar gael ar-lein yma.
Mae arolygon papur hefyd ar gael yn llyfrgelloedd y fwrdeistref yn ogystal ag yn:
- Galw Wrecsam
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam/Shopmobility
- Neuadd y Dref
- Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr
- Yr Hwb Lles
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI