Ar ôl blwyddyn anarferol arall i’n myfyrwyr Lefel-A, fe hoffem ni longyfarch ein holl fyfyrwyr UG a Safon Uwch yn wresog am wneud mor arbennig o dda.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Ar ôl blwyddyn anodd arall, mae’r disgyblion wedi cael canlyniadau gwych ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd, yn ogystal â’u hathrawon a’u rhieni, am eu gwaith caled sydd wedi arwain at flwyddyn lwyddiannus arall o ganlyniadau.
“Rydym ni’n dymuno pob lwc a llwyddiant i bob un ohonynt yn y dyfodol wrth iddynt fynd ymlaen i fyd gwaith, hyfforddiant neu addysg uwch.
“Da iawn bawb.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]