Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam …
Pobl a lleY cyngor

Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam …

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 12, 2018 9:15 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam ...
RHANNU

Gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yw tipio anghyfreithlon. Gall amrywio o fod yn fag bin unigol i fod yn filoedd o dunelli o wastraff. Gall fod yn beryglus, mae’n llygru’r tir a’r dyfrffyrdd ac yn costio swm sylweddol o arian i awdurdodau lleol ei glirio.

Y llynedd cafodd 288 o achosion o dipio anghyfreithlon eu cofnodi yn Wrecsam yn unig.

Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam ... Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam ... Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam ... Lluniau syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws Wrecsam ...

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r lluniau hyn yn dangos dim ond rhai o’r achosion syfrdanol o dipio anghyfreithlon ar draws y sir. Mae tipio yn anghyfreithlon a dylai preswylwyr sicrhau os oes ganddynt eitemau swmpus i gael gwared arnynt eu bod yn defnyddio cwmni cyfrifol neu wasanaeth casglu gwastraff swmpus y cyngor.”

Os oes gennych lawer iawn o sbwriel i’w waredu yna sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn defnyddio cwmni cyfrifol i wneud hynny ar eich rhan. Ni all y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan waredu’r eitemau yn eich canolfannau ailgylchu cartref ond rhaid iddynt eu gwaredu mewn cyfleuster wedi ei drwyddedu’n breifat.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae gwastraff swmpus yn cyfeirio at eitemau sy’n rhy fawr i’w cludo gyda’r casgliad sbwriel arferol.  Gall hyn gynnwys eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chyfarpar garddio.  Gellir casglu hyd at wyth eitem am isafswm o £40.50. Bydd ffi ychwanegol o £8.10 yr eitem am unrhyw eitem ychwanegol i’r wyth.

GET SNAPPY – FOLLOW US ON SNAPCHAT.

Byddwn yn casglu:

  • Dodrefn (e.e. byrddau, cadeiriau, switiau, gwelyau, matresi, cypyrddau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad)
  • Nwyddau gwyn (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau)
  • Cyfarpar garddio (e.e. peiriannau torri gwair bach, offer garddio, byrddau a chadeiriau gardd, barbiciws, beics)
  • Carped (darnau bychain o garped ac isgarped (toriadau o ddim mwy na maint un ystafell yn unig)
  • Offer trydanol ac electronig (e.e. cyfrifiaduron, setiau teledu)

Dim ond casgliad ymyl palmant y mae’r Cyngor yn ei gynnig o ran gwastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaethau casglu pellach ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd neu rwbel.

Fel arfer gwneir casgliadau swmpus ar ddiwrnod eich casgliad nesaf cyn belled ag y rhoir rhybudd o ddau ddiwrnod gwaith.  Gellir canfod mwy o wybodaeth am gasgliadau swmpus yma

Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

  • Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff Lôn y Bryn ar agor rhwng 8am-8pm bob dydd o’r flwyddyn ac eithrio Diwrnod Nadolig
  • Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Plas Madoc a’r Lodge ar agor rhwng 9am-4am

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wedi gorwario y ’Dolig hwn? Wedi gorwario y ’Dolig hwn?
Erthygl nesaf Ai hon ydi’r gyfrinach orau yn Wrecsam? Ai hon ydi’r gyfrinach orau yn Wrecsam?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English