Hyd yma mae’r ymateb i’n hymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam wedi bod yn gryf.
Ond rydym yn annog unrhyw un nad ydynt eto wedi cael y cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau i ddweud eu dweud.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch gwblhau arolwg yr ymgynghoriad ar-lein, neu dewch i un o’r sioeau teithiol lle cewch gyfle i gyflwyno eich cwestiynau i’r swyddogion wyneb yn wyneb.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Rydym wedi cynnal nifer o sioeau teithiol ymhob un o’n llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ogystal ag mewn lleoliadau cymunedol eraill, ac mae dros 350 o bobl wedi mynychu hyd yma.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.
Mae gennym fwy o sioeau teithiol ar y ffordd yn y lleoliadau hyn:
- Canolfan Glyn Ceiriog, Glyn Ceiriog – 10am tan hanner dydd. Dydd Mercher Tachwedd 6.
- Tŷ Pawb, Wrecsam – 11am tan 2pm. Dydd Iau Tachwedd 7.
- Canolfan Fenter Brymbo – 10am tan hanner dydd. Dydd Llun Tachwedd 11.
- Canolfan Hamdden Plas Madoc, Plas Madoc – 5pm tan 7pm. Dydd Mawrth Tachwedd 12.
- Llyfrgell Deithiol, Rhostyllen – 2pm tan 4pm. Dydd Iau, Tachwedd 14.
- Llyfrgell Deithiol Holt – 9.45am tan hanner dydd. Dydd Gwener, Tachwedd 15.
- Partneriaeth Parc Caia, Parc Caia – 11am tan 1pm. Dydd Iau, Tachwedd 15.
Dywedodd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Lyfrgelloedd: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn wynebu’r heriau ariannol caletaf o fewn cof ac mae gennym ni benderfyniadau anodd i’w gwneud.
“Mae preswylwyr wedi bod yn rhoi ein cynigion o dan y chwyddwydr ac mae swyddogion y cyngor wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb i egluro ein syniadau a’n hawgrymiadau.
“Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod darllenwch ddogfen Llunio Dyfodol Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam a sicrhewch eich bod yn manteisio ar y cyfle i ddweud eich dweud.”
Dywedodd Shan Cooper, yr Arweinydd Llyfrgelloedd: “Mae Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn bwysig, felly mae’n hanfodol ein bod yn clywed barn cynifer o bobl leol ag sy’n bosib.
“Rwyf wrth fy modd fod cynifer wedi llenwi’r ffurflenni ymgynghoriad ac wedi dod i’n cyfarfodydd, ond mae yna amser o hyd i’r rhai hynny nad ydynt eto wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud.
“Rwy’n annog cynifer o bobl â phosib i fynd arlein neu godi copi papur o bapur yr ymgynghoriad o’u llyfrgell leol a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn.”
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD