Gan fod tymor newydd yr ysgolion wedi dechrau, mae Llyfrau Tu Chwith Allan yn ei ôl!
Hwn yw’r grŵp ysgrifennu creadigol i blant y mae Llyfrgell Wrecsam wedi ennill gwobrau amdano, sydd bellach wedi bod yn mynd am wyth mlynedd. Mae’r grŵp yn cwrdd bob prynhawn Mercher (yn ystod y tymor) o 4 tan 5 o’r gloch.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Yma mae’r plant yn arbrofi â phob math o ysgrifennu creadigol, gan gynnwys ysgrifennu adolygiadau o lyfrau, barddoniaeth, straeon byrion a chomics. Ers mis Medi 2011 mae’r plant wedi ennill cystadlaethau cenedlaethol ac mae’r asiantaeth Young Writers wedi cyhoeddi’u gwaith yn gyson.
Mae’r plant hefyd yn cael eu hysbrydoli gan awduron sy’n ymweld, yn creu arddangosfeydd ar gyfer y llyfrgell ac yn dathlu digwyddiadau cenedlaethol fel Wythnos y Llyfrgelloedd a Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Croesewir plant 8-10 oed i’r grŵp a chodir hanner can ceiniog am bob sesiwn. I ymuno dewch i Lyfrgell Wrecsam neu ffoniwch 01978 292090.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU