Wrth i wyliau’r haf ddirwyn i ben mae masnachwyr yng nghanol y dref yn paratoi ar gyfer Gŵyl Haf mis Awst a gaiff ei chynnal yng nghanol y dref ddydd Sadwrn yma, Awst 31.
Ac mae’n argoeli i fod yn un wych gyda llygod, tywod a robotiaid!
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Yn Eglwys Blwyf St Giles mae’r Ŵyl Llygod – “Llygoden yr Eglwys yn Nhŷ Duw” sy’n dathlu bywyd llygoden yr eglwys.
Mae dros 400 o lygod wedi eu gwau gan wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sydd wedi creu portread unigryw o fywyd o fewn yr Eglwys. Mae’n dangos y gwahanol grwpiau a gweithgareddau a gaiff eu cynnal yn yr eglwys o’r ‘Babes in the Pew’, grŵp i rieni a phlant bach, i’r Caffi Cof ar gyfer pobl sydd â dementia, ac o Fedyddiadau i angladdau.
Hefyd yn St Giles gallwch ddringo tŵr yr Eglwys i gael golygfeydd gwych ar draws Wrecsam. Mae’r rhain yn digwydd yn y bore – ymarfer corff gwych cyn cinio efallai!
“Digon o dywod”
Hefyd mae’r holl weithgareddau a gaiff eu cynnal yn Nhŷ Pawb.
Yma gallwch gymryd rhan mewn hwyl gwyddonol i’r teulu am ddim, paentio crochenwaith neu wneud llysnafedd yn Cwtch Ceramics; crwydro stondinau’r farchnad; cyfrannu at y paentio cymunedol ac efallai gael cinio neu goffi yn y neuadd fwyd.
Os oes plant bach gyda chi fe fyddant wrth eu bodd gyda’r arddangosfa gelf GWAITH-CHWARAE sydd wedi troi’r gofod yn yr oriel yn faes chwarae antur dan do.
Mae’r arddangosfa yn dathlu hawl plant i chwarae a’r cyfleoedd gwych i chwarae sydd yn Wrecsam. Rydym ni’n credu y bydd yr hyn maent wedi ei wneud gyda’r gofod yn creu tipyn o argraff arnoch chi – yn arbennig yr holl dywod!
Hefyd mae’r ddwy farchnad arall yng nghanol tref Wrecsam – Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol – y ddwy mewn adeiladau Fictoraidd hyfryd gydag amrediad gwych o stondinau.
Bydd arddangosfa Robot a Gwyddoniaeth hefyd yn y Farchnad Gyffredinol sy’n cynnwys Glitterbomb o’r gyfres deledu Robot Wars
Gallwch fynd i’r Arcêd Ganolog i weld y llusernau gwreiddiol sy’n profi’n boblogaidd iawn – ac os ydych chi’n dod o hyd i’r llygod fe allwch chi gael gwobr.
Drwy ganol y dref mae yna hefyd ddewis gwych o siopau indie yn ogystal â’r marchnadoedd felly pam nad ewch chi i weld beth sydd ynddynt?
Ac os ydych chi’n ffan pêl-droed mae’n bosib yr hoffech fynd am dro i Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw i weld eu harddangosfa Pêl-droed Am Byth. Gallwch ddarllen mwy am hyn isod:
Pêl-droed -Am Byth! – Arddangosfa newydd i’w hagor yn Amgueddfa Wrecsam
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n argoeli i fod yn Ŵyl wych ac mae llawer yn mynd ymlaen yng nghanol y dref i’r holl deulu ei fwynhau. Mae yna waith caled iawn wedi bod y tu ôl i’r holl weithgareddau hyn ac fe hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o hyn am eu hymroddiad i ganol y dref ac o ran hyrwyddo popeth a gaiff ei gynnig i chi ei fwynhau.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION