Erthygl Wadd ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Bydd Alwen, o Wytherin ger Llangernyw, yn dechrau ei rôl newydd ym mis Ionawr.
Mewn gyrfa 24 mlynedd gyda chwmni telathrebu BT, mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl rheoli a strategol, gan gynnwys Cyfarwyddwr BT Cymru, a’i safle presennol fel Uwch Reolwr Ardal ar gyfer Openreach yn Llundain a’r De Ddwyrain.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
“Rwyf wedi cyffroi am y rhaglenni, ac rwy’n teimlo fel fy mod eisoes wedi ymrwymo at y weledigaeth gan fy mod yn dod o’r rhanbarth ac yn benderfynol o helpu i’w weld yn llwyddo,” meddai Alwen.
“Mae’r themâu allweddol yn cefnogi twf economaidd tymor hir, felly, yr her yw eu sianelu mewn partneriaeth gyda’n budd-ddeiliaid.
“Wedi’i arwain gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – sydd wedi gweithio’n galed i gyrraedd y pwynt hwn – ynghyd â Llywodraethau Cymru a’r DU, mae’r synnwyr o gydweithio ac undeb sydd wedi cael ei fabwysiadu ar draws y prosiect wedi rhoi sylfaen gadarn i ni allu symud ymlaen.”
Ychwanegodd Dyfrig Siencyn, cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, ac Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae Alwen wedi gwneud ei marc ar y sector preifat yn ei gyrfa gyda BT, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud yr un fath fel Cyfarwyddwr y Rhaglen. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi, ac ar ran y Bwrdd Uchelgais, hoffwn ei llongyfarch ar y rôl ganolog, newydd hon.”
Mae’r Bwrdd Uchelgais nawr yn y broses o recriwtio rheolwyr i Swyddfa’r Rhaglen, a fydd yn cydlynu prosiectau a swyddogaethau, gan gynnwys ynni, cysylltedd digidol, tir ac eiddo, a gweithredoedd.
Am ragor o wybodaeth ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ewch i https://northwaleseab.co.uk/cy.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD