Bellach, mae angen gwirfoddolwyr o fewn radiws 50 milltir i Wrecsam i gymryd rhan mewn treial clinigol newydd i dderbyn trydydd brechlyn ‘atgyfnerthu’ COVID-19.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio pobl dros 30 oed sydd wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil hon, gan gynnwys y rhai a gafodd eu himiwneiddio yn gynnar yn y rhaglen frechu. Er enghraifft, oedolion 75 oed a hŷn neu weithwyr iechyd a gofal.
Mae’r astudiaeth COV-Boost, sy’n cael ei rhedeg yn Ysbyty Wrecsam Maelor, yn cael ei chynnal mewn 18 o safleoedd yn y DU a bydd yn cynnwys 2,886 o wirfoddolwyr.
Mae’r treial yn edrych ar saith gwahanol frechlyn COVID-19 fel atgyfnerthwyr posib, sy’n cael eu rhoi o leiaf 10 i 12 wythnos ar ôl ail ddos fel rhan o’r rhaglen frechu barhaus. Gallai gwirfoddolwyr dderbyn brand gwahanol i’r un a gawsant fel brechiad gwreiddiol.
Dyma’r astudiaeth gyntaf yn y byd i ddarparu data hanfodol ar effaith trydydd dos ar ymatebion imiwnedd cleifion. Bydd yn rhoi gwell syniad i wyddonwyr o bob cwr o’r byd a’r arbenigwyr y tu ôl i raglen frechu COVID-19 y DU o ba mor effeithiol yw atgyfnerthu pob brechlyn o ran amddiffyn pobl rhag y feirws.
Mae’r astudiaeth eisiau cynnwys pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac anogir pobl o leiafrifoedd ethnig i ymgeisio.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy a chofrestru ymweld â gwefan yr astudiaeth.
Dywedodd Dr Orod Osanlou, Meddyg Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac astudiaeth COV-Boost: “Er bod y brechlynnau COVID-19 cyfredol yn hynod effeithiol wrth atal clefydau difrifol, nid ydym yn gwybod pa mor hir y bydd yr amddiffyniad imiwnedd hwnnw o’r brechiad yn parhau. Mae’n debygol y bydd angen brechiadau atgyfnerthu ychwanegol ar gyfer grwpiau risg uchel ar ôl cyfnod o amser a dyna pam rydym yn gwneud yr ymchwil hwn.
“Rydym eisiau darganfod pa mor effeithiol y gall trydydd pigiad fod wrth ddarparu amddiffyniad a pha mor effeithiol yw rhoi dosau o frandiau sy’n wahanol o bosibl i’r rhai a dderbyniodd pobl fel eu brechiad gwreiddiol.
“Diolch i’r rhai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gwirfoddoli mewn treialon brechu hyd yma. Byddwn yn annog unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan ac sy’n byw’n agos i Ysbyty Maelor Wrecsam i gofrestru gyda gwefan COV-Boost. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni’r cyfnod nesaf pwysig hwn o ymchwil, ac yn parhau i ddiogelu ein teulu a’n ffrindiau mwyaf agored i niwed.”