Mae diweddariadau wedi’u hanfon i ap Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan roi mynediad at y rhan fwyaf o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y platfform yn Gymraeg am y tro cyntaf.
O Hunanasesiad i’r gwasanaeth Talu Wrth Ennill, gellir defnyddio’r rhan fwyaf o adnoddau ar yr ap yn Gymraeg nawr, yn dilyn y gwaith uwchraddio a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae ap CThEF wedi cael ei ddefnyddio gan fwy na phedair miliwn o bobl, gan helpu cwsmeriaid i ddarganfod gwybodaeth am eu treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a mwy.
Meddai Lee Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg CThEF, “Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio ap CThEF a chefnogi anghenion Cymraeg ein cwsmeriaid.
“Gweithiodd Uned Gymraeg CThEF yng Nghaerdydd yn aruthrol o galed, ynghyd â chydweithwyr digidol ledled y DU, i gyflawni’r prosiect hwn.
“Rydym yn hynod falch bod ap CThEF bellach ar gael yn Gymraeg.”
Er mwyn defnyddio ap CThEF yn Gymraeg, y cyfan mae angen i chi ei wneud yw clicio ar eicon y gosodiadau, sy’n edrych fel “gêr”, yn y gornel dde uchaf a sgrolio i lawr i’r adran “iaith” lle y gellir toglo ar y Gymraeg. Ar bob tudalen sydd ar gael yn Gymraeg, bydd eicon “CYM” yn ymddangos yn y gornel dde uchaf. Bydd cyffwrdd â’r eicon hwnnw yn trosi’r geiriau sy’n cael eu harddangos i’r Gymraeg. Yna bydd “ENG” yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y sgrin Gymraeg, a bydd ei gyffwrdd yn newid y dudalen i’r Saesneg.
Yn ogystal â’r ap, mae CThEF yn cefnogi cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg mewn ffyrdd eraill. Mae’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg ym Mhorthmadog, a’n Llinell gymorth TAW ac Ecséis yng Nghaerdydd, yn rhoi cyngor i gwsmeriaid sy’n dymuno cyfathrebu â CThEF yn Gymraeg ar ystod eang o faterion treth.
Mae’r Uned Gymraeg yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig i CThEF. Mae hefyd yn cydlynu holl ofynion CThEF o ran y Gymraeg, ac yn rhoi cyngor iddo.
Mae cydweithwyr a siaradwyr Cymraeg hefyd ar gael ledled CThEF i gefnogi gwasanaethau cwsmeriaid ac adennill dyledion drwy’r Gymraeg.