Mae stori Taith Cymru a Brwydr Prydain wedi’i ddadlennu yng Nghanolfan Tŷ Pawb prynhawn heddiw.
Roedd Brwydr Prydain yn yr awyr yn y DU rhwng 10 Gorffennaf a 31 Hydref ac yn cynnwys 2,947 Peilot Criw Awyr, Arsylwyr, Saethwyr Awyr a Gweithredwyr Di-wifr. Cafodd 544 eu lladd mewn brwydr ac roedd cerbydau awyr yn cynnwys y Spitfire eiconig, Hyricen, Blenheim, Beaufighter, Defiant a Gladiator.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn dysgu am bwysigrwydd safleoedd Cymru fel RAF Penarlâg oedd yn hyfforddi Peilotiaid Spitfire. Mae hefyd yn sôn am y 68 criw awyr o Gymru a’r 17 peilot o Gymru a laddwyd yn ystod y frwydr a’r pris a dalwyd gan ddinasoedd Cymru fel Abertawe wnaeth ddioddef colledion mawr yn ystod cyrchoedd bomio’r Almaen.
Dywedodd y Cyng ??? , Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Mae hon yn arddangosfa benodol sydd yn dangos sut mae Cymru, gan gynnwys criwiau awyr o Wrecsam, wedi cyfrannu at y Frwydr hon a oedd yn bennaf yn fuddugoliaethus i Brydain ac yn atal ymosodiad gan luoedd Natsiaidd. Mae hefyd yn amserol iawn wrth i Wrecsam ddathlu Diwrnod Lluoedd Arfog Cenedlaethol Cymru ar 18 Mehefin a bydd llawer o ymwelwyr â’r ardal yn gallu ymweld a mwynhau’r arddangosfa fel rhan o ddathliadau a gynhelir.”
Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, a agorodd yr arddangosfa:
“Rwyf wrth fy modd, yn dilyn agoriad swyddogol Arddangosfa i nodi 80 mlynedd Brwydr Prydain yng Nghaerdydd, mae’r arddangosfa ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd ac wedi cyrraedd Wrecsam.
“Roedd Brwydr Prydain, y frwydr awyr fwyaf i gael ei chofnodi, yn un o’r adegau pwysig ac eiconig yn hanes y wlad. Roedd yn nodi trobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan safodd Prydain ei hun yn erbyn pŵer milwrol di-stop Hitler.
“Mae’r arddangosfa yn adrodd stori fydd yn galluogi pobl Cymru i ddod a gwybod mwy am beth ddigwyddodd yn yr awyr ac ar y ddaear yn yr Haf 1940. Mae’n manylu criw awyr Cymru wnaeth frwydro, gan gynnwys nifer o Wrecsam, yn adrodd eu straeon a’u gwroldeb wrth gynulleidfa fodern Gymreig.
Cafodd Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain ei greu gan Gangen Hanesyddol Awyr yr RAF (Dr Lynsey Shaw), ynghyd â Chomodor y Llu Awyr Adrian Williams i gofio cyfraniad Cymru i fuddugoliaeth ym Mrwydr Prydain.
Cafodd ei gynllunio ar gyfer lansio’n wreiddiol yn 2020, ond bu’n rhaid ei ohirio oherwydd y pandemig. Mae Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yn stori a adroddir o safbwynt Cymru, un na chafodd ei hadrodd erioed o’r blaen.
Bydd ar agor yn ystod oriau arferol Tŷ Pawb tan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar 18 Mehefin.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH