Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Tŷ Pawb yn cynnal Arddangosfa Taith “Cymru a Brwydr Prydain” sy’n dathlu 80 mlynedd ers Brwydr Prydain.
Roedd Brwydr Prydain yn yr awyr yn y DU rhwng 10 Gorffennaf a 31 Hydref ac yn cynnwys 2,947 Peilot Criw Awyr, Arsylwyr, Saethwyr Awyr a Gweithredwyr Di-wifr. Cafodd 544 eu lladd mewn brwydr ac roedd cerbydau awyr yn cynnwys y Spitfire eiconig, Hyricen, Blenheim, Beaufighter, Defiant a Gladiator.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn dysgu am bwysigrwydd safleoedd Cymru fel RAF Penarlâg oedd yn hyfforddi Peilotiaid Spitfire. Mae hefyd yn sôn am y 68 criw awyr o Gymru a’r 17 peilot o Gymru a laddwyd yn ystod y frwydr a’r pris a dalwyd gan ddinasoedd Cymru fel Abertawe wnaeth ddioddef colledion mawr yn ystod cyrchoedd bomio’r Almaen.
Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, fydd yn agor yr arddangosfa, “Rwyf wrth fy modd, yn dilyn agoriad swyddogol Arddangosfa i nodi 80 mlynedd Brwydr Prydain yng Nghaerdydd, mae’r arddangosfa ar daith o amgylch Cymru a bydd yn ymweld â Dinas Wrecsam rhwng 13 – 18 Mehefin.
“Roedd Brwydr Prydain, y frwydr awyr fwyaf i gael ei chofnodi, yn un o’r adegau pwysig ac eiconig yn hanes y wlad. Roedd yn nodi trobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan safodd Prydain ei hun yn erbyn pŵer milwrol di-stop Hitler.
“Mae’r arddangosfa yn adrodd stori fydd yn galluogi pobl Cymru i ddod a gwybod mwy am beth ddigwyddodd yn yr awyr ac ar y ddaear yn yr Haf 1940. Mae’n manylu criw awyr Cymru wnaeth frwydro, gan gynnwys nifer o Wrecsam, yn adrodd eu straeon a’u gwroldeb wrth gynulleidfa fodern Gymreig.
Cafodd Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain ei greu gan Gangen Hanesyddol Awyr yr RAF (Dr Lynsey Shaw), ynghyd â Chomodor y Llu Awyr Adrian Williams i gofio cyfraniad Cymru i fuddugoliaeth ym Mrwydr Prydain.
Cafodd ei gynllunio ar gyfer lansio’n wreiddiol yn 2020, ond bu’n rhaid ei ohirio oherwydd y pandemig. Mae Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yn stori a adroddir o safbwynt Cymru, un na chafodd ei hadrodd erioed o’r blaen.
Mae’n dod am 3pm ar 13 Mehefin a bydd yn agored yn ystod oriau arferol Tŷ Pawb tan 18 Mehefin.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH