Mae Arweinwyr Cynghorau Growth Track 360 yn edrych am £20 miliwn i wella cysylltiadau rheilffyrdd hanfodol sy’n gwasanaethu Gogledd Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, a Chilgwri
Mae arweinwyr awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn y Bartneriaeth GT360 yn edrych am £20 miliwn mewn cyllid sbarduno gan Ganghellor y Trysorlys yn yr Adolygiad Gwariant o fewn yr wythnosau nesaf i ddatblygu tri chynllun gwella rheilffyrdd yn rhanbarth y gororau sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yn ysgrifennu at Rishi Sunak AS ar ran awdurdodau lleol a sefydliadau busnes y Gynghrair Growth Track 360, mae’r Cadeirydd Louise Gittins, Arweinydd Gorllewin Swydd Gaer a Chaer – a’r Is Gadeirydd – y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Sir y Fflint – er mwyn annog y Canghellor i ‘gydio yn y cyfle i gryfhau’r Undeb, i greu twf economaidd cynhwysol, hyrwyddo cludiant cynaliadwy a lleihau allyriadau carbon drwy wneud cyfanswm rhesymol o fuddsoddiadau sbarduno mewn tri chynllun moderneiddio rheilffyrdd traws-ffiniol wedi’u datblygu’n dda yng Ngogledd Cymru, Cilgwri a Swydd Gaer.”
Ychwanegodd y Cynghorwyr Gittins a Roberts, “Byddai dim ond £20m o gyllid i ddatblygu dros y tair blynedd nesaf yn galluogi aelodau etholaethol a phartneriaid Growth Track 360 i wneud cynnydd pendant a sylweddol gyda’r prosiectau hyn yn ystod hyd oes y Senedd bresennol”.
Y tri phrosiect sy’n derbyn blaenoriaeth gan Growth Track 360 ar gyfer cyllid sbarduno yw:
1. Trawsnewid Wrecsam i Lerpwl: Teithio 21ain Ganrif mewn Coridor o Ddiwydiannau Safon Fyd-Eang
2. Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru: Ehangu ar Dwristiaeth Prydain a Thramor yn Gynaliadwy mewn Ardal o Harddwch Eithriadol, a
3. Moderneiddio Gorsaf Caer: Mynedfa Milflwyddol i Ddinas Milflwyddol.
Meddai’r Cynghorydd Gittins: “Trwy weithio yn draws-ffiniol a thraws-bleidiol mae arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr busnes ledled Gogledd Cymru, Cilgwri a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer eisiau datblygu’r ardal i fod yn well na chyn dechrau’r pandemig er mwyn cyflawni dyfodol gwyrdd ac isel mewn carbon a ffyniant cynaliadwy i’r holl gymunedau a dinasyddion.
“Bydd y cyfanswm rhesymol o gyllid sbarduno y gofynnwn amdano gan y Canghellor yn ein galluogi i symud y tri chynllun hyn i wella rheilffyrdd hyd at y cyfnod terfynol o’r datblygiad ac yn cael ei ddarparu o fewn hyd oes y Senedd bresennol.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG