Rydyn ni am atgoffa preswylwyr bod batris ac eitemau trydanol sy’n cael eu rhoi mewn gwastraff cyffredinol yn gallu achosi tanau mewn lorïau biniau neu yn y canolfannau ailgylchu. Mae hyn yn beryglus iawn ac yn rhoi llawer o bobl mewn perygl.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Os ydych chi’n taflu neu guddio batris yn eich biniau, maen nhw’n gallu cael eu malu neu eu tyllu yn ein lorïau biniau sy’n gallu achosi tanau difrifol a pheryglus. Gallai unrhyw fatris sydd heb eu difrodi yn y lorïau achosi tanau yn ddiweddarach yn y canolfannau ailgylchu.
“Mae’r neges yn glir – peidiwch â gadael i’ch batri achosi’r tân nesaf. Ailgylchwch eich hen fatris ac eitemau trydanol yn gywir ac yn gyfrifol a fydd yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.”
Yn Wrecsam yn ddiweddar, cawson ni dân yn un o’n lorïau a wnaeth roi ein gweithredwyr ac eraill mewn perygl. Mae unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl nad yw’n cael ei ailgylchu’n gywir yn gallu peri risg i bobl ac adeiladau, felly gwnewch yn siŵr nad ydych byth yn rhoi’r eitemau hyn yn y bin.
Sut i ailgylchu batris
Batris lithiwm yw’r achosion mwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch chi ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris ceir!
Ond os ydych am ailgylchu eich batris cartref cyffredin yn unig, ac os yw’n fwy cyfleus i chi, dylai fod modd i chi eu hailgylchu mewn siop leol hefyd.
Mae hynny oherwydd bod rhaid, ers mis Chwefror 2010, i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 x pedwar pecyn o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu batris yn y siop, felly mae’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr mwy yn darparu’r rhain.
Edrychwch ar Offeryn lleoli Recycle your Electricals i gael gwybod pa rai o’ch siopau lleol fydd yn ailgylchu’ch hen fatris.
Sut i ailgylchu fêps
Ydych chi’n defnyddio fêps? Os felly, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymgyfarwyddo â sut i gael gwared arnyn nhw’n gywir ac yn ddiogel.
Mae fêps yn gallu cael eu derbyn fel Gwastraff o Gyfarpar Trydanol ac Electronig (WEEE) a gallwch gael gwared arnyn nhw yn y cynhwysydd Offer Domestig Bach (ODB) ym mhob un o’r canolfannau ailgylchu cartref yn Wrecsam.
Bydd nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu fêps hefyd yn gadael i chi eu dychwelyd a’u hailgylchu i chi. Edrychwch ar offeryn lleoli Recycle Your Electricals a theipiwch ‘vapes’ i weld ble gallwch chi gael gwared arnyn nhw.
Ailgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol
Mae gan y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam fanciau penodol ar gyfer eitemau trydanol.
Os oes gennych eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Nightingale House. Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu – siaradwch ag un o’r gweision a fydd yn dangos i chi ble gallwch adael eich eitemau rydych am eu rhoi.
Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam