Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Y cyngorPobl a lle

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 11, 2024 9:44 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
RHANNU

Mae gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn ffordd wych i wybod pa bryd fydd eich casgliadau ailgylchu dros y Nadolig.

Cynnwys
  • Pethau i’w nodi
  • Ailgylchu ychwanegol

Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.

Gallwch wirio eich diwrnod biniau yma. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio eich diwrnod biniau, a gallwch wirio ar ran ffrindiau, teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu enw eu stryd.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn dros gyfnod y Nadolig, pan fo newidiadau i’r patrymau casglu arferol yn debygol.

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasglu biniau yw cofrestru i dderbyn e-byst atgoffa. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.

Pethau i’w nodi

  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Rhagfyr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol (bin du/glas).
  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 23 Rhagfyr, ni fydd unrhyw gartref yn Wrecsam yn cael casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na chasgliad gwastraff gardd (bin gwyrdd) – dim ond casglu deunyddiau ailgylchu a gwastraff bwyd y byddwn ni ddydd Llun a dydd Mawrth (noswyl Nadolig).
  • Ni fydd unrhyw gasgliad rhwng 25 Rhagfyr a 27 Rhagfyr. Bydd preswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn cael gadael gwastraff ychwanegol i’w ailgylchu yr wythnos wedyn, fel y nodir isod.
  • Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 30 Rhagfyr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol (bin du/glas).
  • Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Mercher, 1 Ionawr, felly os yw eich diwrnod casglu bin gwastraff ar ddydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener, bydd eich diwrnod casglu ddiwrnod yn hwyrach nag arfer (gallwch wirio eich diwrnod casglu bin ar gyfer y dyddiadau diwygiedig).

Ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.

Diweddariad – Mae eich casgliadau gwastraff gardd yn rhedeg tan fis Chwefror 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:biniaubinsgwastraffwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Coffee pods Cyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi yng nghanolfannau ailgylchu Wrecsam
Erthygl nesaf canfasio Mae’r canfasio blynyddol bron â dod i ben

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English