Mae hwn yn amser arbennig o anodd ac mae nifer ohonom yn pryderu am iechyd, ein teulu a ffrindiau wrth weithio a siopa ar gyfer pethau hanfodol mewn ffordd wahanol a chydbwyso cyfrifoldebau gofalu. O ganlyniad, efallai bydd adegau pan fydd angen cefnogaeth ychwanegol arnom.
Mae Rhaglen Cymorth i Weithwyr Care First yn darparu mynediad cyfrinachol, rhad ac am ddim i gwnselwyr a chynghorwyr Cyngor ar Bopeth sydd wedi’u hyfforddi.
Gellir gofyn am gyngor am nifer o bynciau gan gynnwys perthnasoedd, gwyliau a digwyddiadau rydych wedi’u trefnu neu sydd wedi’u canslo, tai, materion gyda’ch cymdogion, pryderon ariannol.
Mae cwnselwyr ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn a gall arbenigwyr gwybodaeth ddarparu cyngor ymarferol o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm.
Efallai byddwch am gadw’r rhif rhag ofn y byddwch ei angen y tu allan i oriau gwaith arferol – rhadffôn 0800 174319.
Mae gwefan Care First yn cynnwys erthyglau, holiaduron, gweminarau wedi’u recordio o flaen llaw a rhai byw – ac mae hyn yn cael ei ddiweddaru bob dydd oherwydd y coronafeirws. Mae gweminarau am bynciau fel straen, cadernid ac iechyd meddwl. Mae asesiad lles a chyfrifiannell cyllidebu ar gael hefyd. Mae adnoddau eraill yn cynnwys erthyglau am orbryder, delio ag unigrwydd a hunanynysu, cadw’n actif adref.
I gael mynediad i bob un o’r gwasanaethau rhad ac am ddim hyn, ewch i www.carefirst-lifestyle.co.uk a defnyddiwch yr enw defnyddiwr Wrexham a’r cyfrinair employee.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar SAM: www.internal.wrexham.gov.uk/wordpress/sam/departments/chief-exec/human-resources/occupational-health-documentation/
Mae’n bwysig ein bod i gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl a chorfforol a chael mynediad i’r gefnogaeth sydd ar gael, pan fydd ei hangen. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn, neu os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch, siaradwch â’ch rheolwr.