Ydych chi eisiau helpu i hyrwyddo #Cyfrifiad2021 yn eich ardal?
Wel y newyddion da yw bod yna dal amser i wneud cais am y rolau dros dro a chyffrous hyn er mwyn helpu i wneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant.
Beth yw’r cyfrifiad?
Mae’r cyfrifiad yn arolwg unwaith mewn degawd sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf manwl i ni o’r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei gyfrannu yn help i benderfynu sut y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u hariannu yn eich ardal leol. Gall hyn olygu pethau fel meddygfeydd, tai neu deithiau bws newydd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Felly dyma gyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth sy’n bwysig iawn. Mae’r cyfrifiad yn arolwg am bob un ohonom. Mae angen eich cymorth a’ch brwdfrydedd i annog pawb yng Nghymru a Lloegr i gymryd rhan.
Dyma’r ffordd orau i gael y cyfanswm mwyaf posib o fanylion am y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi, gan helpu i wneud penderfyniadau a’r potensial i drawsnewid bywydau am y gorau.
Os ydych yn hel pres i brynu rhywbeth da chi wirioneddol eisiau neu am wneud gwahaniaeth go iawn i’ch cymuned yna dyma’r swydd ar eich cyfer chi. Oes gennych chi ddiddordeb?
Beth am edrych ar safle swyddi’r cyfrifiad i weld os oes swydd ar eich cyfer.
EWCH Â FI AT Y SWYDD