O fis Medi, bydd mwy o ddysgwyr yn Wrecsam yn derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol. P’un ai fod hynny’n gymorth gyda gwisg ysgol a chostau offer drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, prydau ysgol am ddim ar gyfer holl ddisgyblion derbyn Wrecsam neu brydau ysgol am ddim i’r holl oedrannau hynny sy’n gymwys.
Felly, gyda’r tymor newydd ar ein gwarthaf rydym yn annog rhieni i wneud cais am y cymorth sydd ganddynt hawl iddo.
Ydi eich plant chi’n derbyn prydau ysgol am ddim?
Os ydi eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim efallai bod gennych hawl hefyd i gymorth ychwanegol trwy’r Grant Datblygu Disgyblion, sydd yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer iwnifform, offer chwaraeon a dyfeisiadau.. I gael mynediad i gynllun eleni ewch i Grant Datblygu Disgyblion (PDG) | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid yn y flwyddyn ddiwethaf?
Os nad yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni efallai y bydd gan Wrecsam gefnogaeth ar eich cyfer. I wirio os ydych yn gymwys ai peidio am Brydau Ysgol am Ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os ydych yn gymwys efallai y byddwch hefyd yn gymwys am Grant Datblygu Disgyblion
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim rwy’n eich annog i ymweld â’n gwefan ac i wneud cais. Os yw eich cais yn llwyddiannus efallai y byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i Grant Datblygu Disgyblion sy’n gam pwysig i atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod nhw’n gymwys i gysylltu â ni er mwyn cefnogi rhieni a dysgwyr trwy gydol y flwyddyn ysgol.”
Prydau ysgol am ddim i holl blant oedran derbyn
Bydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael eu cyflwyno i holl ddysgwyr cynradd yng Nghymru dros y 12-18 mis nesaf.
I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosib, bydd yr holl blant yn Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o fis Medi yma ymlaen.
Os ydi eich plentyn yn dechrau Derbyn y flwyddyn ysgol hon, mi fyddan nhw’n derbyn prydau am ddim yn awtomatig. OND rydym yn eich annog i lenwi’r Ffurflen Prydau Ysgol am Ddim ar ein gwefan rhag ofn eich bod yn gallu cael mynediad i fwy o gymorth i’ch plentyn.
Eich plentyn yn dechrau ysgol? Byddwch angen cyfrif Parent Pay
Os ydi eich plentyn yn derbyn pryd ysgol am ddim eleni – p’un ai’n bryd ysgol am ddim cyffredinol neu yn un yr ydych wedi gwneud cais amdano – byddwch angen cyfrif ar wefan Parent Pay – www.parentpay.com. Dyma sut i gael cyfrif:
1. E-bost schoolmeals@wrexham.gov.uk gydag enw llawn eich plentyn, dyddiad geni ac enw eu hysgol, a gofynnwch am eich cod cynnau Parent Pay
2. Byddwch yn derbyn cod cynnau i ddechrau a rhedeg y cyfrif.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol sydd ar gael i’ch plentyn pan fyddan nhw yn yr ysgol cysylltwch â ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR