Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnig llwybr o Ddirwasgiad Covid i Dwf Gwyrdd mewn Cynnig Pecyn Ysgogi £400 miliwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnig llwybr o Ddirwasgiad Covid i Dwf Gwyrdd mewn Cynnig Pecyn Ysgogi £400 miliwn
Busnes ac addysgY cyngor

Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnig llwybr o Ddirwasgiad Covid i Dwf Gwyrdd mewn Cynnig Pecyn Ysgogi £400 miliwn

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 29, 2021 4:50 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy
RHANNU

Erthyl gwadd – Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy

Cyhoeddodd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, sy’n cynrychioli buddion economi unigryw trawsffiniol, gweithredol Sir y Fflint a Wrecsam yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, a Chaer a Chilgwri yng Ngogledd Orllewin Lloegr, gynllun radical heddiw ar gyfer Pecyn Ysgogiad Cyllidol £400 miliwn ar gyfer Economi’r Mersi a’r Ddyfrdwy. Mae’r cynnig wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion yn Llywodraethau Cymru a’r DU.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy,
“Mae economi Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wedi cael ergyd fawr yn sgil Covid-19. Mae ein Gwerth Ychwanegol Gros wedi lleihau o 15%, sydd gyfwerth â £3.5 biliwn cyn y pandemig, sef £22 biliwn o werth yr economi. Mae miloedd o swyddi wedi cael eu colli. Mae angen gweithredoedd yn hytrach na geiriau nawr i ddarparu ysgogiad cyllidol ar frys i economi Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, i achub swyddi a diogelu dyfodol ein clwstwr diwydiant gweithgynhyrchu sydd o’r radd flaenaf.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Bydd ein cynigion i lywodraethau Cymru a’r DU yn creu a diogelu 5000 o swyddi, a chynhyrchu £1.2 biliwn mewn gwerth economaidd mewn cyfnod byr o amser.”

Mae’r pecyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth y DU i gryfhau’r undeb, cyflawni “lefelu” a gweithredu’r cynllun 10 pwynt ar gyfer “chwyldro diwydiannol gwyrdd”.

Byddwn yn diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol gyda thwf cynhwysol a chynaliadwy fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, “Rydw i’n teimlo’n angerddol dros newid hinsawdd a thwf cynaliadwy. Bydd Pecyn Ysgogiad Cyllidol Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cyflymu buddsoddiad mewn trosglwyddo o danwyddau carbon i danwyddau adnewyddadwy newydd a gwyrdd megis hydrogen, gan ddal a storio carbon ar gyfer cyfnodau cychwynnol cynhyrchu hydrogen.

Rydym yn cynnig buddsoddiad sylweddol mewn llwybrau beics a chludiant cyhoeddus i leihau allyriadau carbon a niweidiol o’n ceir. Bydd ein cynigion teithio llesol yn galluogi darpariaeth coridor seiclo strategol a fyddai’n cysylltu Penbedw â Chaer ac Ellesmere Port, ac o Orllewin Kirby i Lannau Dyfrdwy/Sir y Fflint, gan ddiddymu rhwystrau ac agor cyfleoedd cyflogaeth.

Meddai’r Cynghorydd Stuart Whittingham, Cyngor Cilgwri ac Is-gadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, “Nid yw busnesau a phreswylwyr Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn gweld ffin rhwng Cymru a Lloegr. Maent yn gweld menter, y gadwyn gyflenwi, cyfleoedd cyflogaeth a hamdden mewn ardal gydag economi integredig a chyswllt diwylliannol agos. Dyna pam fod 153,000 o siwrneiau rhwng rhanbarthau y ddwy ffordd dros gyfnod o 24 awr bob dydd

Bydd ein heconomi yn ffynnu fwyaf gyda phartneriaeth gref rhwng llywodraethau Cymru a’r DU. Mae Cynnig y Gynghrair yn gyfle i wneud y mwyaf o dwf cynaliadwy a chynhwysol, a datblygu partneriaeth gadarnhaol rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU.

Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn bartneriaeth sy’n perfformio’n uchel rhwng Cynghorau, busnesau a phrifysgolion. Rydym yn fodel partneriaeth y gall Llywodraethau Cymru a’r DU weithio arno.”

Dywedodd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, “Rydym wedi gweithio gyda phartneriaethau twf lleol cyfagos i ddatblygu ein cynigion. Bydd y Gynghrair yn parhau i weithio’n agos gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Menter Lleol Swydd Gaer ac Warrington, yn ogystal ag Awdurdod Cyfunol Dinas-Ranbarth Lerpwl. Byddwn yn osgoi dyblygiad a chyflenwad rhaglenni ein partneriaid.

“Mae Sir y Fflint yn cefnogi’r pecyn hwn fel cartref Airbus. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cwmnïau gweithgynhyrchu gwych sy’n darparu gwaith crefftus gyda chyflog da.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard i gloi: “Mae economi Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdrwy yn wynebu heriau mawr i gael adferiad o Covid-19 ac i addasu i weithrediadau “net sero”. Rydym wedi gwneud cynigion trawsnewidiol ac arloesol i ymdrin â’r heriau hyn.

Rydym eisiau cyflawni pethau a byddwn yn gweithio’n greadigol ac yn hyblyg gyda’r ddwy lywodraeth i ddarparu buddsoddiad o amrywiol ffynonellau yn ddi-oed. Bydd hyn yn cynnwys ceisio rhywfaint o fuddsoddiad trwy ddigwyddiad cyllidol yn y dyfodol gyda darpariaeth ar gyfer y Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn yr Adolygiad Cynhwysfawr O Wariant i’w gyhoeddi yn hydref 2021.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Health and Social Care Y Dirprwy Arweinydd i Oruchwylio rôl y Prif Aelod dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd
Erthygl nesaf Crimestoppers Rhoi gwybod i Crimestoppers am werthu cynhyrchion dan oed yn anghyfreithlon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English