Mae Tŷ Pawb yn dod a maes chwarae antur i’w oriel ar gyfer ei arddangosfa nesaf;
Mae pedwar maes chwarae antur yng Nghymru. Mae Wrecsam yn gartref i dri ohonynt: Dyffryn Gwenfro, Y Tir ac Yr Antur, ynghyd a chyfoeth o gynlluniau chwarae cymunedol eraill.
Astudiwyd y meysydd chwarae hyn gan ymchwilwyr chwarae o bob cwr o’r byd. Yn lleol, mae’r safleoedd hyn yn rhan ganolog o fywyd i nifer o deuluoedd. Daeth nifer o staff presennol y safleoedd hyn ar draws y meysydd chwarae fel plant eu hunain.
Meysydd chwarae ‘radical’ Wrecsam
Bydd GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam.
Yr arddangosfa fydd tirlun chwarae, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb a Thîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. O fewn y tirlun chwarae bydd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun, sydd wedi creu tecstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol.
Bydd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Mae’r ceirt wedi eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam. Yn ogystal, bydd ‘The Voice of Children’, ffilm gan gydweithredfa Assemble sydd wedi ennill Gwobr Turner yn cael ei arddangos yn yr oriel.
Dewch i chwarae!
Anogir Ymwelwyr i chwarae a rhyngweithio gyda’r arddangosfa, lle bydd Gweithwyr Chwarae wrth law i oruchwylio.
Bydd ‘Sesiynau Chwarae’ wedi eu hwyluso yn cael eu cynnal mewn mannau a ddynodwyd yn ystod yr arddangosfa, yn debyg i’r rhai hynny sy’n cael eu cynnal ym mhrosiectau gwaith chwarae Wrecsam.
Bydd cyfle i fusnesau lleol gymryd rhan drwy noddi’r arddangosfa a Sesiynau Chwarae cysylltiedig – manylion i ddilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall bob un ohonom ddeall yr angen i chwarae. Bydd y gwaith gwych sy’n mynd yn ei flaen yn Wrecsam i gynnig darpariaeth chwarae i’n plant yn dod â balchder aruthrol i’r rhanbarth. Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu’r cynlluniau hynny ynghyd â gwaith gwych Assemble, Morag, Gareth a Ludicology.
Dywedodd Mike Barclay o Ludicology: “Mae gan Wrecsam hanes hir a chyfoethog o waith chwarae, ac rydym yn ystyried ein bod ni’n ffodus i gael ymwneud ag o.
Mae’r prosiectau hyn yn cynnig mannau unigryw i chwarae, lle mae’r perthnasau rhwng plant a staff yn wahanol i’r rhai hynny y ceir mewn lleoedd eraill. “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw chwarae ar gyfer plant, i ba raddau maen nhw’n gwerthfawrogi’r math hwn o ddarpariaeth a’r gwahaniaeth y gall gwaith chwarae ei wneud i fywydau teuluoedd a’u cymunedau. Rydym felly’n falch ein bod yn gweithio gyda’r bobl fendigedig yn Nhŷ Pawb i ddathlu ac archwilio’r dull gwaith chwarae o gefnogi plant.
- Bydd GWAITH-CHWARAE yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb o Awst 10-Hydref 27.
- Bydd digwyddiad agoriadol cyhoeddus arbennig yn 12pm ar ddydd Sadwrn Awst 10.