Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae disgyblion yn Wrecsam yn ceisio helpu ein planed…ac maent yn eich herio chithau i wneud yr un fath
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae disgyblion yn Wrecsam yn ceisio helpu ein planed…ac maent yn eich herio chithau i wneud yr un fath
Busnes ac addysg

Mae disgyblion yn Wrecsam yn ceisio helpu ein planed…ac maent yn eich herio chithau i wneud yr un fath

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/14 at 9:11 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Borras Park School Planet Eco Council
RHANNU

Mae’r Cyngor Eco yn Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras, Wrecsam, yn gobeithio y byddant, drwy osod esiampl gyda’u gwaith amgylcheddol, yn annog eraill i gamu ymlaen a gwneud newidiadau bychain i’w bywydau eu hunain.

Cynnwys
“Ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion i fod yn ecogyfeillgar”Cynllun GweithreduBod yn garbon niwtralCysylltiadau RhyngwladolGweithredu dros yr Hinsawdd

Mae Cyngor Eco’r ysgol yn cynnwys aelodau o’r Blynyddoedd Cynnar hyd at Flwyddyn 6, ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y tymor i ddatblygu ac ymestyn eu cynllun gweithredu.

“Ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion i fod yn ecogyfeillgar”

Dywedodd Alessia, 7 oed: “Rwy’n hoffi bod yn rhan o’r Cyngor Eco oherwydd mae’n bwysig dysgu am faterion amgylcheddol. Mae Blwyddyn 3 hefyd yn dysgu am y newid yn yr hinsawdd fel ein pwnc ar gyfer y tymor hwn. Mae arnom ni angen dysgu beth allwn ni ei wneud i rwystro ein planed rhag cynhesu mwy.”

Dywedodd Robert Stock, sy’n cydlynu’r Cyngor Eco: “Rydym yn falch iawn o waith y disgyblion ar faterion amgylcheddol. Mae gennym Gyngor Eco gweithgar iawn sy’n gweithredu fel arweinwyr ac yn ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion i fod yn ecogyfeillgar.’

SIGN UP TO RECEIVE REGULAR GRITTING ACTIVITY ALERTS

Fodd bynnag, nid yw hyn wedi digwydd dros nos, mae’r ysgol wedi bod yn cymryd camau i leihau eu hôl troed carbon ers sawl blwyddyn bellach, ac o ganlyniad, maent wedi llwyddo i ennill ‘Fflag Platinwm’ gan Eco Ysgolion Cymru yn ystod tymor yr haf yn 2018.

Dyma’r wobr orau sydd ar gael i ysgolion, a dim ond ysgolion sydd wedi bod yn ymgymryd â gwaith amgylcheddol parhaus am 10 mlynedd sy’n deilwng o’r wobr.

Ychwanegodd Mr Stock: “Mae ein gwaith parhaus dros y ddegawd ddiwethaf wedi golygu ein bod wedi llwyddo i ennill ‘Fflag Platinwm’ Eco Ysgolion. Rydym hefyd yn aelod o’r rhaglen ‘One World,’ sef rhwydwaith byd-eang o addysgwyr a disgyblion sy’n gweithio gyda’i gilydd i helpu ein disgyblion i ddatblygu eu cymhwysedd byd-eang.

“Fel ysgol Fflag Platinwm, rydym bellach yn mynychu cyfarfod Cyngor Eco Cenedlaethol Cymru ynghyd ag ysgolion Fflag Platinwm eraill yn flynyddol.”

Cynllun Gweithredu

Eleni, mae cynllun gweithredu’r ysgolion yn cynnwys:

• Arbed, Ailddefnyddio ac Ailgylchu gymaint â phosibl
• Lleihau’r ynni na ellir ei adnewyddu a ddefnyddir gan yr ysgol
• Datblygu cysylltiadau rhyngwladol newydd
• Parhau i fod yn ysgol garbon niwtral ac ysbrydoli ysgolion eraill i wneud yr un fath
• Defnyddio Ecosia.org fel chwilotwr diofyn yr ysgol (Mae Ecosia yn defnyddio eu helw i blannu coed mewn rhannau o’r byd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan ddatgoedwigo)

These Wrexham pupils are trying to help our planet

Bod yn garbon niwtral

Yn 2019, daeth yr ysgol yn garbon niwtral am y tro cyntaf, sy’n llwyddiant gwych.

Dywedodd Mr Stock wrthym: “Llwyddom i gyflawni hyn drwy gyfrifo ein hallyriadau carbon a’u gwrthbwyso drwy helpu i ariannu prosiectau gwyrdd ar Blatfform Gwrthbwyso Carbon y Cenhedloedd Unedig (offset.climateneutralnow.org).”

Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae Ysgol Gynradd Parc Borras yn aelod o’r grŵp ysgolion cenedlaethol ‘One World’ sy’n anelu at ddatblygu cymhwysedd byd-eang ymysg plant.

Eglurodd Mr Stock: “Mae gan ein hysgol glwb ‘One World’ ar ôl ysgol, a gaiff ei arwain gan ein pennaeth, Mr Nicholson. Cyfeirir at blant sy’n mynychu’r clwb fel ‘Asiantwyr Newid’ ac maent yn cysylltu ac yn cydweithio gyda chlybiau One World eraill ar draws y byd i drafod materion byd-eang.

“Fe wnaeth Mr Nicholson a minnau fynychu Wythnos ‘One World’ yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd 2019. Buom yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon eraill o bob cwr o’r byd mewn cyfres o weithdai ar ‘gymhwysedd byd-eang’ ac yn cynllunio pwnc a rannir i’r ysgol ganolbwyntio arno yn ystod tymor y gwanwyn.”

Gweithredu dros yr Hinsawdd

Mae Mr Stock yn dysgu dosbarth Blwyddyn 3 yn Ysgol Gynradd Parc Borras, ac maent yn astudio’r pwnc ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd’ ar hyn o bryd, mae ysgolion ‘One World’ eraill hefyd yn astudio’r pwnc hwn.

Dywedodd Mr Stock: “Mae ychydig o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud yn cynnwys dysgu am gynhesu byd eang a’r newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd wedi ystyried ffyrdd i drafod ein holion traed carbon personol ac wedi gwneud ‘Addewid Ecogyfeillgar’ ar gyfer 2020.”

Get the latest gritting info straight into your inbox

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_108″] SIGN ME UP NOW [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol man Dyn a’i fan… ymhle maent yn gwaredu eich sbwriel?
Erthygl nesaf d A ydych chi erioed wedi ystyried sut beth fyddai colli’r gallu i siarad?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg

Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio

Ionawr 15, 2026
financial hep
Busnes ac addysg

Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English