Mae cael gwared â gwastraff cartref wedi dod yn ffordd dda o wneud arian i rai pobl ddiegwyddor sy’n cymryd arian pobl gan addo cael gwared â’u gwastraff yn gyfrifol, ac yna’n mynd ati i dipio’r sbwriel yn anghyfreithlon ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.
Fel aelwydydd, mae “dyletswydd gofal” arnom ni oll i wneud yn siŵr bod Trwydded Cludydd Gwastraff swyddogol gan unrhyw un y byddwn yn ei ddefnyddio i gael gwared â’n sbwriel, a gallwch wirio hynny ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithlon yn fodlon dangos eu Trwydded i chi a thawelu’ch meddwl chi y byddan nhw’n cael gwared â’ch sbwriel yn gyfrifol mewn safle gwastraff dynodedig.
Os nad oes ganddyn nhw drwydded, mae’n debygol iawn y bydd eich sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, ac os caiff ei olrhain yn ôl atoch chi, mae perygl i chi gael dirwy o hyd at £5,000 a chael eich erlyn.
Gall ein swyddogion hefyd roi rhybudd cosb benodedig o £300 i ddeiliad y tŷ yn lle ei erlyn.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae’n ffaith bywyd trist nad oes unrhyw ots gan rai pobl, a’u bod yn fodlon tipio eich sbwriel yn anghyfreithlon, eich twyllo chi a chymryd eich arian ac achosi pentyrrau sbwriel annerbyniol ar hyd a lled ein cefn gwlad.
“Treuliwch ychydig o amser yn gwirio bod Trwydded Cludydd Gwastraff gan unrhyw un y byddwch chi’n ei ddefnyddio i gael gwared â’ch sbwriel.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL