Hoffem atgoffa preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd, bod y gwasanaeth cyfredol yn ddilys tan fis Chwefror 2025.
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai eich bod wedi sylwi bod eich sticer bin yn nodi y bydd y casgliadau yn dod i ben ar ddiwedd mis Awst, ond nid yw hynny’n wir. Y llynedd cafodd y gwasanaeth ei ymestyn tan fis Chwefror 2025
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd cyfredol yn para tan 28 Chwefror, 2025. Anwybyddwch y wybodaeth sydd ar y sticer bin, gan nad ydyw wedi’i diweddaru. NI fyddwn yn anfon sticeri newydd ar gyfer y cyfnod Awst 2024 – Chwefror 2025.
Peidiwch â cheisio adnewyddu eto
Os ydym ni’n casglu eich gwastraff gardd, sylwch NAD yw’r cyfnod adnewyddu wedi dechrau eto. Byddwch chi’n gallu adnewyddu ar gyfer gwasanaeth 2025/26 yn y Flwyddyn Newydd. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi beth yw’r manylion adnewyddu pan fyddant ar gael.
Er mwyn osgoi dryswch, byddwn yn diffodd y cyfleuster talu ar-lein ar ddiwedd y mis. Bydd angen i unrhyw danysgrifwyr newydd sydd am ymuno am weddill y gwasanaeth presennol (mis Tachwedd 2024 – mis Chwefror 2025) ffonio Gwasanaethau Stryd ar 01978 298989 er mwyn talu â cherdyn.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.