SCROLL DOWN FOR ENGLISH – or click on flag icon
Dydd Gwener 9 Rhagfyr yw’r diwrnod olaf y bydd Galw Wrecsam wedi’i leoli ar Stryt yr Arglwydd.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
O ddydd Llun 12 Rhagfyr ymlaen, bydd Galw Wrecsam yn gweithredu o Neuadd y Dref (lolfa’r brif fynedfa) am gyfnod, cyn symud i’w leoliad parhaol yn Llyfrgell Wrecsam (dyddiad i’w gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd).
Bydd y gwasanaeth yn parhau i weithredu drwy gydol y cyfnod pontio.
Mae llawer o’r gwasanaethau ar gael ar-lein bob awr o’r dydd –www.wrecsam.gov.uk/ sef y ffordd gyflymaf a hawsaf o gael gafael ar lawer o wasanaethau.
Mae Galw Wrecsam yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gyfer y gwasanaethau canlynol:
- Bathodynnau glas
- Treth y Cyngor
- Budd-daliadau tai
- Cynllunio
- Cardiau bws cydymaith
Mae pob rhif wedi’i gyhoeddi ar gael ar ein gwefan – www.wrecsam.gov.uk/)
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Ar wahân i newid lleoliad, dydyn ni ddim yn disgwyl i’r cyfnod pontio gael effaith fawr ar gwsmeriaid sydd eisiau ymweld â Galw Wrecsam, a phan fydd yn y llyfrgell, bydd y staff yn gallu cynnig cefnogaeth ddigidol i’n cwsmeriaid yn ein hardal hunanwasanaeth unigryw.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol Cyllid a Pherfformiad, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Roedd y brydles ar y lleoliad ar Stryt yr Arglwydd yn dod i ben tua diwedd y mis yma ac roedd angen chwilio am leoliad newydd. Ar ôl treulio ychydig wythnosau yn Neuadd y Dref i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu parhau i weithredu, y lleoliad terfynol yn Llyfrgell Wrecsam yw’r lleoliad gorau fel cartref parhaol y gwasanaethau.”
Mae lleoliad y llyfrgell yn gyfagos at faes parcio neuadd y ddinas, ac felly’n gwneud y gwasanaethau’n haws i fynychu i bobl gyda phroblemau symudedd, a hefyd mae’r parcio am ddim i dalwyr bathodyn glas.
Mae buddsoddi mewn, a chael gwasanaethau Galw Wrecsam yn y llyfrgell yn golygu bod gwasanaethau wyneb i wyneb yn gwella i’r gymuned, yn gwneud y llyfrgell yn lle delfrydol i’w gartref parhaol.
O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI
Contact Wrexham is moving…but not too far
Friday 9th of December is the final day that Contact Wrexham will be based at the Lord Street location.
From Monday December 12th Contact Wrexham will be operating from The Guildhall (main entrance lobby) temporarily, until finally moving to its permanent home inside Wrexham Library (date to be announced in the New Year).
There will be no loss to service during this transition period.
Many of the services are available online 24 hours a day which remains the quickest and easiest way of access lots of services.
Contact Wrexham offers face to face appointments for the following services:
- Blue badges
- Council Tax
- Housing Benefits
- Planning
- Companion bus passes
All published numbers are available on our website.
Cllr Beverley Parry Jones, Lead Member for corporate services said: “Other than the change of locations, we expect the transition period to have very little impact on customers wanting to visit Contact Wrexham, and once at the library, staff will be able to offer customers digital support at our bespoke self-serve area.”
Leader of Wrexham County Borough Council and Lead Member for Finance and Performance Cllr Mark Pritchard said: “The lease on our Lord Street location was due to finish towards the end of this month and a new location was sought. After spending a few weeks based at the Guildhall to ensure a continuation of service, the final location will be based at Wrexham library.
The library location is in close proximity to the Guildhall car park, making the service more accessible to people with mobility issues, as well as being free parking to blue badge holders.
Investing in, and having our Contact Wrexham service at the library will mean that we will be able to improve our overall face to face services to the community, making it the ideal location for the services permanent new home.
When it comes to the cost of living, making sure you claim all the help and support you’re entitled to could make a huge difference.