Yn ardal cefnogwyr Tŷ Pawb yn ddiweddar roedd artistiaid iaith Gymraeg yn perfformio a hefyd sylwebaeth iaith Gymraeg yn cael ei chwarae ar gyfer pob gem grŵp Cymru.

Ar Ddydd Mercher 7 Rhagfyr bydd sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydlynu’r diwrnod. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.

Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol i’r Amgylchedd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:“Mae cael Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn rhoi llwyfan i ni fel cyngor i roi gwybodaeth ac atgoffa ein trigolion ein bod yn groeso ac annog y defnydd o’r Gymraeg wrth iddynt gyfathrebu gyda ni.

Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl.