Os ydych eisiau hanes, digonedd o natur, a milltiroedd o lwybrau i’w harchwilio, yna yn sicr dylech ymweld â’r parc gwledig lleol hwn…
Mae Parc Gwledig Bonc yr Hafod ar safle Pwll Glo yr Hafod, ac yn ddiddorol, mae’r bryn wedi’i wneud o wastraff pwll glo o’r siafftiau glo a thwneli yn ddwfn dan y ddaear.
Mae’r Hafod yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt ac yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Johnstown. Roeddem yn digon ffodus i weld bwncath yn hedfan!
Mae milltiroedd o lwybrau i’w harchwilio, gan gynnwys llwybrau dwy ffordd wedi’u marcio (coch a melyn).
Gwnaethom gwblhau’r llwybr coch sy’n mynd â chi i’r copa – lle mae cerflun deial haul mawr o löwr – gyda golygfeydd panoramig ar draws ffin Cymru.
Dyma fideo byr o’n hymweliad…
Os oeddech yn hoffi’r fideo, cadwch olwg oherwydd byddwn yn ailymweld â’r Hafod yn yr wythnosau nesaf i gwblhau’r llwybr melyn (coetir a phyllau)…
DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I