Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae gennym gyfle cyffrous i rywun arwain ein cynlluniau ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae gennym gyfle cyffrous i rywun arwain ein cynlluniau ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.
Y cyngor

Mae gennym gyfle cyffrous i rywun arwain ein cynlluniau ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 23, 2021 9:32 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Newid Hinsawdd
RHANNU

Rydym yn chwilio am unigolyn arbennig i’w benodi fel ein Rheolwr Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon i arwain ar ddarpariaeth a datblygiad pellach ein strategaeth a’n cynlluniau i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Dyddiad uchelgeisiol iawn, ond un yr ydym wedi ymrwymo iddo.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn wybodus ac yn gallu ysgogi eraill drwy reoli’r rhaglen ac arwain mewn modd strategol ar draws y Cyngor, gan sicrhau bod prosiectau cynaliadwy ac arloesol gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid allweddol yn cael eu cyflawni .

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos ag aelodau etholedig, yr uwch dîm arweinyddiaeth a swyddogion ym mhob gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio wedi’i wreiddio ym mhopeth a wnawn.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr yr Hinsawdd, “Rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth ac mae angen unigolyn ymroddedig a brwdfrydig ar gyfer y rôl allweddol hon i yrru ein cynlluniau ymlaen er mwyn i ni lwyddo i gyrraedd ein targedau.

“Mae hefyd yn gyfle cyffrous i weithio mewn rôl a all greu newid a fydd o fudd nid yn unig i Wrecsam ond i Gymru gyfan a thu hwnt.

“Yn fyd-eang mae newid hinsawdd ar ein ffrydiau newyddion bob dydd a dyma’r cyfle perffaith i’r unigolyn priodol wneud gwahaniaeth.”

Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl gallwch weld y swydd-ddisgrifiad a manylion eraill yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 08.08.21

Byw yn Wrecsam

Mae gan Wrecsam lawer i’w gynnig. Mae gennym barciau gwledig anhygoel (mae un parc yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd – Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte), hanes cyfoethog a balch, a rhai o’r bobl fwyaf gonest a gweithgar y gallech eu cyfarfod yn unman.

Mae gennym Tŷ Pawb, adnodd diwydiannol cymunedol, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd yn yr un lleoliad.

Mae gennym hefyd brifysgol, un o’r colegau addysg bellach gorau yn y DU, ac rydym yn gartref i rai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain.

Gyda buddsoddiad Hollywood yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, ein clwb pêl-droed lleol, diolch i Ryan Reynolds a Rob McElhenney, mae’n gyfnod cyffrous i Wrecsam.

Nid yn unig yr ydym wedi ein lleoli yn agos at ddinasoedd fel Caer, Lerpwl a Manceinion, rydym hefyd dafliad carreg i ffwrdd o rai o draethau hyfrytaf y DU.

Peidiwch â choelio’r hyn yr ydych yn darllen. Gall gweithio i’r sector cyhoeddus fod yn wobrwyol iawn….ac yn bendant nid yw’n ddiflas. Yn ogystal, fe gewch gyfle i ymrwymo i gynllun pensiwn da, lwfans gwyliau hael, gweithio hyblyg (grêt er mwyn cydbwyso bywyd gwaith a bywyd cartref) a buddiannau eraill i weithwyr.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Datblygiad gwerth £2.6m o gartrefi cyngor newydd ar y gweill yn Wrecsam Datblygiad gwerth £2.6m o gartrefi cyngor newydd ar y gweill yn Wrecsam
Erthygl nesaf green bin Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English