Pob dydd mae 55,000 o deuluoedd maeth ar draws y DU yn rhoi cartref cariadus, diogel a sefydlog i 65,000 o blant a phobl ifanc maeth. Fodd bynnag, mae yna lawer o wybodaeth gamarweiniol o gwmpas sy’n atal pobl rhag ystyried dod yn ofalwyr maeth.
- Fe allwch chi rentu neu fod yn berchen ar eich cartref, a does dim rhaid i chi fod yn briod nac mewn perthynas i faethu
- Fe allwch chi weithio’n llawn amser, a maethu
- Dydi’ch cyfeiriadedd rhywiol ddim yn berthnasol
- Dydi’ch ethnigrwydd ddim yn berthnasol
Ond mae ‘na ddau beth pwysig iawn – mae’n rhaid i chi fod dros 21 oed a gydag ystafell wely sbâr.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Ar hyn o bryd mae yna 120 o deuluoedd maeth yn gofalu am 149 o blant yn Wrecsam ond mae angen i ragor o deuluoedd ddechrau maethu. Er gwaetha’r sefyllfa bresennol, rydym i’n dal i recriwtio gofalwyr maeth gan ddefnyddio dulliau digidol a chynnal cyfarfodydd ar-lein i drafod ceisiadau.
Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i sicrhau bod plant mewn, am beth bynnag reswm, yn derbyn gofal priodol a bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu. Felly mae’n bwysig ein bod ni’n edrych ar y person yn gyntaf, cyn i ni benderfynu ai maethu ydi’r peth gorau i chi a’r plentyn.
Byddwch yn derbyn lwfans i gwrdd â’r costau ynghlwm wrth fagu plentyn (gan gynnwys dillad, bwyd a chludiant).
Bydd gennych chi hefyd rwydwaith o gymorth, cyngor, arweiniad a hyfforddiant i chi fanteisio arno, yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol (sydd ar hyn o bryd yn cael eu trefnu ar-lein) i’ch helpu chi gadw mewn cysylltiad â gofalwyr maeth eraill.
Bydd pob gofalwr maeth yn derbyn Cerdyn Max sy’n darparu mynediad i ostyngiadau ar nifer fawr o weithgareddau ar draws y DU sy’n rhan o’r cynllun (wrth gwrs, mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cyfyngu oherwydd y coronafeirws).
Ai chi ydi’r person rydym ni’n chwilio amdano? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn diogelu person ifanc, yna camwch ymlaen a gofynnwch am fwy o wybodaeth.
Ffoniwch ni ar 01978 295316 neu anfonwch e-bost i fostering@wrexham.gov.uk.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG