Hoffem atgoffa preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd, bod y gwasanaeth cyfredol yn ddilys tan fis Chwefror 2025.
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai eich bod wedi sylwi bod eich sticer bin yn nodi y bydd y casgliadau yn dod i ben ar ddiwedd mis Awst, ond nid yw hynny’n wir. Y llynedd cafodd y gwasanaeth ei ymestyn tan fis Chwefror 2025
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd cyfredol yn para tan 28 Chwefror, 2025. Anwybyddwch y wybodaeth sydd ar y sticer bin, gan nad ydyw wedi’i diweddaru. NI fyddwn yn anfon sticeri newydd ar gyfer y cyfnod Awst 2024 – Chwefror 2025.
Ydych chi eisiau i ni gasglu eich gwastraff gardd?
Os nad ydych eisoes wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu, mae dal digon o amser i arddio yn y flwyddyn ichi gael mantais lawn o’r gwasanaeth! Am fwy o wybodaeth am danysgrifiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol – Newyddion Cyngor Wrecsam