Mae Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam wedi ei ailwampio ar gyfer 2018 a bellach yn cynnwys neuadd gwrw a rhaglen bnawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.
Bydd Gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam ar ei newydd wedd yn dychwelyd i’r dref eleni – gyda’r digwyddiad yn cynnwys rhaglen bnawn a nos estynedig gyda cherddoriaeth fyw.
Bydd yn dychwelyd i Lwyn Isaf ar benwythnos 22 Medi ac mae trefnwyr yn addo y bydd y digwyddiad yn fwy ac yn well.
Mae tîm yn cynnwys Alex Jones o Plât Bach, Sam Regan o’r Lemon Tree wedi cymryd yr awenau eleni gyda’r nod o ymestyn yr ŵyl dros y tair blynedd nesaf. Mae tîm ‘Dyma Wrecsam’ yn cefnogi’r ymdrech, gyda chymorth gan enwau cyfarwydd lleol gan gynnwys King Street Coffee Company a Wrexham Lager.
Pabell “Bierkeller”
Yn ogystal â’r ddarpariaeth fwyd a diod boblogaidd o flynyddoedd blaenorol, bydd hefyd mwy o ffocws ar adloniant yn yr ŵyl, gydag amryw o fandiau lleol yn chwarae i mewn i’r nos a hyd yn oed pabell ‘Bierkeller’ arbennig newydd gyda’i band wmpa ei hun.
Mae adborth o ddigwyddiadau blaenorol wedi ei ystyried ac mae trefnwyr yn dweud eu bod yn gobeithio y byddant yn cael mwy o werth am arian eleni. Mae costau i stondinwyr wedi cael eu lleihau gyda lleoedd yn cael eu llenwi’n gyflym – gyda nifer yn arddangos yn Wrecsam am y tro cyntaf.
Bydd hanner elw’r digwyddiad yn cael ei roi i elusen leol, a hanner yn cael ei ddal yn ôl yn benodol i wneud digwyddiadau’r blynyddoedd canlynol yn fwy ac yn well.
“Mae’r derbyniad wedi bod yn aruthrol”
Wrth sôn am yr ŵyl ar ei newydd wedd, dywedodd y cyd-drefnwr Alex Jones: “Mae Gŵyl Fwyd Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad Nightingale House. Mae gennym gyfle rŵan i ychwanegu at eu gwaith, ac rydym yn gobeithio yn y pen draw i dyfu’r ŵyl drwy ganol y dref.”
“Er nad ydym hyd yn oed wedi lansio’r digwyddiad yn ffurfiol, mae’r derbyniad hyd yma wedi bod yn aruthrol gyda llawer o bobl eisio dangos eu bwyd a diod. Rydym yn gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dod i lawr ac yn mwynhau’r adloniant ychwanegol i wneud pnawn a noson iawn ohoni – gyda chyfle i wneud hynny ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul.”
Ychwanegodd Sam Regan: “Ar gyfer ‘wythnos yr ŵyl’ ymlaen llaw, rydym yn gobeithio y bydd y dref yn ymuno gydag ystod o fwydlenni a chynigion arbennig yn ein detholiad gwych o fwytai a bariau lleol i’ch cael i gymryd rhan lawn.”
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae Digwyddiadau fel yr Ŵyl Fwyd a Diod bob amser yn denu ymwelwyr i’r dref, ac yn rhoi’r cyfle i gynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd lleol i arddangos a marchnata eu nwyddau yn lleol.
“Gan hynny, rwy’n falch iawn i glywed y bydd yr Ŵyl Fwyd a Diod yn dychwelyd i’r dref yn nes ymlaen yn yr haf, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig am eu hymdrechion.”
Gofynnir i unrhyw un a fyddai’n hoffi cael gwybodaeth bellach am stondinau, neu i gymryd rhan, anfon e-bost i team@wrexhamfoodfestival.wales neu eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol @WrexhamFood.
Cynhelir Gŵyl Fwyd Wrecsam ar Llywn Isaf, y tu allan i Neuadd y Dref yng nghanol tref Wrecsam ar 22 a 23 Medi.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI