Gall ymwelwyr i Wrecsam yn ystod nosweithiau Sadwrn gael eu sicrhau fod lloches ddiogel iddynt os ydynt yn teimlo’n wael neu’n cael problemau gan fod Canolfan Les Hafan y Dref yno i ddarparu cymorth 10pm – 4am.
Mae’r ganolfan les yn cael ei gweithredu a’i staffio gan Events Medical Team www.eventsmedicalteam.com; a p’un a fyddwch chi wedi colli eich ffrindiau, heb bŵer batri ar eich ffôn i’w ffonio nhw, neu’n rhy feddw i gyrraedd adref, maen nhw yno i helpu a chynnig man diogel i chi gadw’n saff.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Maent hefyd yn patrolio’r strydoedd i sicrhau nad yw unrhyw un sydd angen cymorth neu gyngor yn cael eu methu, a rhoi fflip fflops a dŵr i’r rhai sydd eu hangen.
Ble mae Hafan y Dref
Mae Hafan y Dref yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref ger clwb nos Atik felly mae’n hawdd dod o hyd iddo.
Mae’r Ganolfan yn un o nifer o fentrau sydd mewn lle yng nghanol Wrecsam i gynorthwyo unrhyw un sydd angen cymorth yn ystod noson allan a chânt eu cefnogi gan staff drysau, swyddogion heddlu, bugeiliaid stryd ac wrth gwrs, teulu a ffrindiau.
Dywedodd y Cyng. Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Mae Hafan y Dref yn gyfleuster gwych, mae cymorth yno i unrhyw un sydd angen help llaw wrth fwynhau noson allan.
“Mae gan y ganolfan enw da am leihau’r pwysau ar wasanaethau brys a darparu cymorth uniongyrchol i unrhyw un sydd angen help. Nid ydynt yn barnu unrhyw un sydd yn o i gael cymorth ac maent yn atal unrhyw drallod neu niwed diangen.”
Agorwyd Hafan y Dref am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2015 gyda’r nod o ddarparu gofod diogel i bobl oedd wedi dod yn ddiamddiffyn yn sgil gormod o alcohol neu gyffuriau, dderbyn sylw meddygol a chymorth.
Mae’r ganolfan yn darparu cyfuniad o asesiad meddygol, adferiad dan oruchwyliaeth ac yn rhyddhau.
Mae’r ganolfan hefyd yn darparu gwasanaethau eraill, megis gofal bugeiliol, ac atgyfeirio i wasanaethau eraill. Gall hefyd ddarparu sylfaen ffisegol i bartneriaid sy’n rheoli’r economi nos leol.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH