Llongyfarchiadau i Helen Roberts sydd wedi ennill cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam mis Mehefin.
Tynnodd Helen y llun ar ddiwedd prynhawn hir yn y parc gyda’i ffrindiau a’i theulu. Roedd y beirniaid yn teimlo fod y llun yn cyfleu hanfod y dyddiau hir cynnes hynny a gawsom ym mis Mehefin pan oedd y barbeciws allan bron bob nos. Mae’n teimlo’n bell yn ôl rŵan!
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Meddai Helen
“Mae Parc Acton yn agos iawn at fy nghalon i. Mae’r llun yma yn un o’r rheiny pan ‘da chi wirioneddol yn llwyddo i gyfleu hanfod yr awyrgylch ar y pry, a ‘dw i mor falch mod i wedi ennill. Rydw i wedi anfon sawl llun i’r gystadleuaeth ond hwn ydi fy ffefryn felly dwi’n falch fod y beirniaid wedi cytuno efo fi. Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at weld y calendr terfynol ac yn dymuno’n dda i ffotograffwyr amatur eraill gyda’u cynigion.”
Nodweddion disglair Wrecsam
Nod y gystadleuaeth yw rhoi’r sylw haeddiannol i lefydd amlwg a chudd o amgylch Wrecsam sy’n agos at ein calonnau ni. Dewisir un enillydd bob mis a bydd y llun buddugol yn ymddangos ar dudalen y mis hwnnw yng Nghalendr 2018.
Hyd yma mae llawer ohonoch chi wedi anfon eich hoff ffotograffau i mewn a hoffem weld mwy fyth yn cyrraedd ar gyfer cystadleuaeth mis Gorffennaf.
Dylid anfon lluniau at ‘calendar@wrexham.gov.uk’ a rhaid iddyn nhw ein cyrraedd ni cyn diwrnod ola’r mis.
Does dim gwobr i’r enillwyr, ond bydd y 12 yn cael copi o galendr y flwyddyn nesaf gyda’u llun a’u henw arno.
Bydd yr holl elw o werthiant y calendr yn cael ei gyflwyno i’r elusennau a ddewiswyd gan y Maer.
Mae telerau ac amodau ar gael ar wefan y Cyngor www.wrexham.gov.uk