Mae Wythnos Cludiant Gwell yn ddathliad blynyddol wythnos o hyd o gludiant cynaliadwy, ac eleni bydd yr wythnos yn cael ei chynnal rhwng 17 a 23 Mehefin.
Mae cludiant cynaliadwy yn gwneud pethau arbennig, yn cynnwys:
- Lleihau tagfeydd traffig
- Glanhau’r aer ac yn mynd i’r afael â newid hinsawdd
- Gwella ein hiechyd ac yn rhoi hwb i’r economi
- Ein cysylltu ni â’r pethau sy’n bwysig
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Os ydych chi’n dewis teithio’n gynaliadwy, byddwch yn cyfrannu at leihau llygredd sŵn, llygredd aer ac allyriadau carbon, a byddwch yn gwneud gwahaniaeth yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”
Pa un a ydych yn ddefnyddiwr bysiau, yn teithio ar drenau, pa un a ydych yn cerdded neu’n mynd ar olwynion, yn beicio neu’n rhannu car…os yw cludiant yn bwysig i chi, yna mae Wythnos Cludiant Gwell i chi!
Os ydych chi eisiau cefnogi’r wythnos, mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan – gallwch…
- Drefnu digwyddiad. Gall hyn fod yn eich gwaith, yn eich ysgol neu yn eich grŵp cymunedol. Beth am osod her i weld pwy all fod y teithiwr mwyaf cynaliadwy yn eich tîm?
- Rhowch gynnig ar ddefnyddio cludiant cynaliadwy. Meddyliwch am ddefnyddio dull cludiant mwy cynaliadwy o deithio i’r gwaith, i’r ysgol neu ar gyfer hamdden, siopa ac i weithgareddau eraill.
- Lledaenwch y neges. Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu am Wythnos Cludiant Gwell a defnyddiwch yr hashnod #WythnosCludiantGwell
Gallwch ddysgu mwy am Wythnos Cludiant Gwell ar wefan Ymgyrchu ar gyfer Cludiant Gwell.
Mae’r wybodaeth Datgarboneiddio Wrecsam bellach yn fyw! – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.