Bydd adeilad Llyfrgell Wrecsam yn 50 mlwydd oed eleni!
Ym mis Rhagfyr 1972, agorodd Llyfrgell Wrecsam ei drysau i drigolion Wrecsam. Ar y pryd, roedd llyfrgell gerdd yno, mannau astudio ar gyfer astudiaeth breifat a llyfrgell i blant (ynghyd â’r pwll plant!).
I ddathlu rydym yn cynnal arddangosfa i ddangos Llyfrgell Wrecsam dros y blynyddoedd, ac rydym angen eich cymorth chi er mwyn sicrhau ei bod yn dangos popeth sydd wedi gwneud y llyfrgell yn arbennig i breswylwyr Wrecsam ers iddi agor.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
A oes gennych chi stori i’w hadrodd am y llyfrgell?
Efallai ei bod yn dod ag atgofion teuluol annwyl yn ôl? A ydych yn cofio eich ymweliad cyntaf? Efallai eich bod wedi gweld y llyfrgell yn agor? Rydych wedi cyfarfod eich darpar bartner yno, o bosibl? Beth bynnag fo’ch stori, hoffem ei chlywed gennych.
A oes gennych luniau neu eitemau cofiadwy?
A oes gennych ffotograffau o’r llyfrgell dros y blynyddoedd y byddech yn hoffi eu gweld yn rhan o’r arddangosfa? Efallai bod gennych rai eitemau cofiadwy – tystysgrifau, cardiau llyfrgell gwreiddiol neu daflenni digwyddiadau?
Os oes gennych stori neu rywbeth a ellid ei ddefnyddio yn yr arddangosfa, gellwch ddod â fo i’ch llyfrgell leol, ffoniwch ni ar 01978 292090, neu e-bostiwch library@wrexham.gov.uk.
Anfonwch eich lluniau, eitemau ac atgofion cyn diwedd mis Hydref, os gwelwch yn dda (ond gorau po gyntaf, gan ein bod yn edrych ymlaen at gael eu gweld a’u clywed!).
Dangosir yr arddangosfa yn ddiweddarach eleni, pan fydd digonedd o ddigwyddiadau yn ogystal i ddathlu.
Cadwch olwg ar y blog hwn am fwy o wybodaeth ynglŷn â phen-blwydd adeilad Llyfrgell Wrecsam yn 50.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH