Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn edrych ar sut y gallant gynnig apwyntiadau yn unig ar gyfer pori, benthyca a dychwelyd llyfrau dros yr wythnosau nesaf ond nes hynny maent ar gael i chi Archebu a Chasglu.
Gallwch ddefnyddio’r ddolen hon i archebu a chasglu a dilyn y ddolen Archebu a Chasglu
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Bydd y staff yn gwneud eu gorau i gael y llyfrau sydd eu heisiau arnoch mor gyflym ag y gallant.
Pan fydd eich llyfrau’n barod, byddant yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i chi fynd i’w casglu. Gallwch ddychwelyd llyfrau yn yr un apwyntiad os ydych chi’n casglu llyfrau.
Bydd Llyfrau Gwasanaeth Archebu a Chasglu’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig
Os mai dim ond dychwelyd llyfrau rydych chi eisiau gwneud, bydd angen i chi gysylltu â staff drwy e-bost neu ffonio i drefnu apwyntiad. Bydd unrhyw lyfr sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd ac unrhyw lyfr y byddwch chi’n ei fenthyg trwy’r Gwasanaeth Archebu a Chasglu yn cael ei adnewyddu’n awtomatig, felly does dim angen i chi boeni am eu dychwelyd ar amser, ac ni fyddwch yn cael unrhyw ddirwyon.
I gael manylion cysylltu ac i ddefnyddio’r ffurflen archebu, ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/service/llyfrgelloedd-gwasanaeth-ar-lein
Mae diogelwch staff a chwsmeriaid yn flaenoriaeth ac mae staff yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i ddelio â llyfrau llyfrgell.
Bydd pob llyfr sy’n cael ei ddychwelyd i’r llyfrgell yn mynd i gwarantîn am 72 awr.
CANFOD Y FFEITHIAU