Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs a lleolir yn Y Waun wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae ennill y wobr glodwiw yn golygu bod meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi cyflawni camau gweithredu ar ystod eang o faterion iechyd gan gynnwys maeth ac iechyd y geg, gweithgarwch corfforol/chwarae’n egnïol, iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd, diogelwch, hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd yma, maent hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ am y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad ac wedi ennill gwobrau am fod yn rhan o’r Cynllun Gwên – rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg. Mae ganddyn nhw ardal awyr agored wych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.
Meddai Helen Jones, Swyddog Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Manfird’s Little Lambs wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Maen nhw’n croesawu pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arferion t lleoliad ac maen nhw’n rhan fawr o’r gymuned, gan helpu i wneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Dwi i’n siŵr y byddan nhw’n parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”
Meddai Vicki Mitchell, Rheolwr Manfords Little Lambs: “Rydym ni wedi dysgu llawer gan y tîm cyn-ysgol iach a hoffem ddiolch iddyn nhw i gyd am eu cefnogaeth drwy gydol y cynllun.
Mae gennym ni dîm da yma, sy’n gweithio’n galed iawn i roi’r cyfleoedd gorau posib’ i’n plant, ac mae’r wobr hon yn teimlo fel cydnabyddiaeth o hynny.”