Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach
Y cyngorPobl a lle

Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 11, 2023 2:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach
RHANNU

Mae meithrinfa Manfords’ Little Lambs a lleolir yn Y Waun wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae ennill y wobr glodwiw yn golygu bod meithrinfa Manfords’ Little Lambs wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi cyflawni camau gweithredu ar ystod eang o faterion iechyd gan gynnwys maeth ac iechyd y geg, gweithgarwch corfforol/chwarae’n egnïol, iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd, diogelwch, hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd yma, maent hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ am y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad ac wedi ennill gwobrau am fod yn rhan o’r Cynllun Gwên – rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg. Mae ganddyn nhw ardal awyr agored wych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.

Meddai Helen Jones, Swyddog Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Manfird’s Little Lambs wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Maen nhw’n croesawu pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arferion t lleoliad ac maen nhw’n rhan fawr o’r gymuned, gan helpu i wneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Dwi i’n siŵr y byddan nhw’n parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”

Meddai Vicki Mitchell, Rheolwr Manfords Little Lambs: “Rydym ni wedi dysgu llawer gan y tîm cyn-ysgol iach a hoffem ddiolch iddyn nhw i gyd am eu cefnogaeth drwy gydol y cynllun.

Mae gennym ni dîm da yma, sy’n gweithio’n galed iawn i roi’r cyfleoedd gorau posib’ i’n plant, ac mae’r wobr hon yn teimlo fel cydnabyddiaeth o hynny.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM
Erthygl nesaf Wrecsam Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wastraff Gardd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English