Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae mwy i’n prentisiaethau TGCh na syllu ar sgrin cyfrifiadur
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae mwy i’n prentisiaethau TGCh na syllu ar sgrin cyfrifiadur
Busnes ac addysg

Mae mwy i’n prentisiaethau TGCh na syllu ar sgrin cyfrifiadur

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2019 1:48 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
ICT Apprentice Job Vacancy Computers
RHANNU

Yn debyg i nifer o swyddi eraill, mae gyrfa mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu wedi creu ystrydebau penodol dros amser, ac nid ydynt bob amser yn rhai cyfareddol.

Cynnwys
  • Ein tîm gwych
  • Allwch chi fod yn rhan o’n tîm?
  • Oes gennych chi ddiddordeb?

Mae TGCh yn gwneud i chi feddwl am swyddfa boeth, yn syllu ar yr un sgrin cyfrifiadur a gweithio oriau maith, heb lawer o gwmni…ond nid dyma’r achos os fyddwch yn gweithio i ni 🙂

Ein tîm gwych

Mae ein tîm technegol yn cynnig cefnogaeth i dros 2,500 o staff y cyngor – nid cymorth dros y ffôn yn unig yw hyn…mae ein tîm yn teithio i wahanol adeiladau’r cyngor ac yn rhoi cymorth ochr y ddesg i’n gweithwyr.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae ein tîm yn cadw rheolaeth ar ein holl dechnoleg fel bod gweithwyr eraill y cyngor yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i Wrecsam gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosib’.

Allwch chi fod yn rhan o’n tîm?

Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Cymorth TGCh (Prentisiaid Modern), felly os ydych yn ifanc ac yn awyddus am her, darllenwch ymlaen.

Mae’r ddwy brentisiaeth yn 37 awr yr wythnos, gyda graddfa gyflog prentis ac wedi’u lleoli yn yr Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines.

Rydym yn chwilio am rywun gydag o leiaf pum cymhwyster TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg), a byddai profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office hefyd yn ddefnyddiol.

Mae’n bwysig deall nad yw hon yn rôl TGCh arferol, mae hon yn swydd sydd wedi’i chanolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda llawer o ryngweithio, felly er bod sgiliau TGCh sylfaenol yn bwysig, byddwch angen brwdfrydedd a sgiliau addasu a chyfathrebu ardderchog hefyd.

A pheidiwch â meddwl bod ein prentisiaethau wedi’u lleoli yn yr ystafell ddosbarth yn unig…byddwch yn cael profiadau ymarferol o roi cymorth TGCh – wedi’r cyfan, dyma’r ffordd orau o ddysgu 🙂

Mae’n gyfle i wella eich sgiliau a chael profiad ymarferol gwerthfawr, a chael cyflog wrth wneud hynny 🙂

Byddwch yn cwblhau BTEC lefel 2 a 3 Diploma mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Telathrebu.

Mae ein prentisiaid yn cael eu trin fel ein gweithwyr eraill, gyda chontract cyflogaeth a gwyliau.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Am ragor o wybodaeth am ein prentisiaethau TGCh, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swydd-ddisgrifiad llawn.

Os ydych chi’n credu bod gennych y sgiliau sydd eu hangen, y cam nesaf yw ymgeisio – dyma ran gyntaf eich siwrnai gyffrous gyda ni 🙂

Y dyddiad cau yw dydd Gwener, 30 Awst.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://ams.careerswales.com/Public/Vacancies/View.aspx?vid=45849&timenow=133033&outputLang=Tr1″] IE…DWI EISIAU GWELD Y SWYDD! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb i arddangos gwaith celf graddedigion Tŷ Pawb i arddangos gwaith celf graddedigion
Erthygl nesaf Cardboard paper recycling box boxes Dyma sut i ailgylchu bocsys cardfwrdd yn gywir

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English