Byddwch yn barod i brofi’r holl wychder pan fydd strafagansa filwrol newydd Prydain yn dychwelyd i Goleg Iâl dydd Sadwrn 22 Hydref.
Wedi ei gyflwyno gan British International Tattoo, mae eu sioe “A Reel of Remembrance” yn dathlu 40 mlynedd ers Rhyfel Ynysoedd Falkland a dathlu Jiwbilî Platinwm EM Brenhines Elizabeth II. Yn ogystal bydd y digwyddiad yn dathlu llwyddiannau’r Gymanwlad.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd yn daith gerddorol drwy bob degawd o deyrnasiad y Frenhines ac yn cynnwys:
- Band Catrodol a Chorfflu’r Drymiau’r Cymry Brenhinol
- Masgot Catrawd y Fyddin Brydeinig
- Corfflu’r Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- Côr The Military Wives gyda pherfformiad arbennig o Sing gan Gary Barlow a Chôr y Gymanwlad.
- Ava Gordon Butler, yr unawdydd, yn dod yn syth o berfformio’r brif ran yn Matilda The Musical a Fiona ifanc yn Shrek.
- Peipiau a Drymiau The British International Tattoo
- Côr a Cherddorfa Liverpool Concert
- Arddangosfeydd Hyfforddiant Corfforol ac Ymarfer Milwrol
- Batala Bangor yn cynrychioli’r Gymanwlad.
- Emma May School of Irish Dance
- Band Cadetiaid Môr Ellesmere Port a llawer mwy
Cyn y digwyddiad bydd arddangosiadau gan y tri Llu Arfog a dewis eang o stondinau a gweithgareddau i’r teulu cyfan ei fwynhau.
Drysau yn agor am 6.30. Tocynnau yn £20 ar gyfer plant dan 16 oed, a £25 i bawb dros 16 oed. Mynediad i gadair olwyn ar gael.
Gallwch ffonio’r Swyddfa Docynnau i brynu tocynnau ar – 0333 666 3366 neu ar-lein yma.
Dywedodd Gareth Butler, y trefnydd, “Rydym yn gyffrous iawn i ddod â’r digwyddiad yn ôl i Wrecsam ac wedi cynyddu’r nifer o docynnau sydd ar gael. Bydd yn noson i gofio ar gyfer yr Elusen Not Forgotten Veterans. Archebwch yn gynnar rhag i chi gael eich siomi.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, “Mae’r lluoedd arfog a cherddoriaeth yn agos iawn at fy nghalon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr hyn sydd yn argoeli i fod yn noson wych o gerddoriaeth a dawns. Bydd y digwyddiad yn cynnwys y gorau o Brydain Fawr. Fel yr ydym yn nesau at Apêl Pabi’r Lleng Prydeinig a Sul y Cofio, mae hwn yn deyrnged deilwng i’n lluoedd arfog, ac rwyf yn gwybod y bydd llawer yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad a’r elusen”
Os na allwch fynychu’r digwyddiad ond eisiau cyfrannu, mae tudalen JustGiving wedi’i greu ar gyfer y digwyddiad yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH