Yn gynharach eleni derbyniodd Cyngor Wrecsam becyn – nid pecyn bach mohono chwaith, ac yntau’n cynnwys 2,230 o liniaduron Chromebook!
Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, wrth i blant ar hyd a lled y wlad dreulio cyfran helaeth o’u hamser yn derbyn addysg gartref, a llawer ohonynt yn cael trafferth gwneud y gwaith gan nad oedd ganddynt y dyfeisiau angenrheidiol i gysylltu â’r rhyngrwyd.
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, derbyniodd Wrecsam rodd hael gan Sefydliad Newmark o 125 o liniaduron Chromebook ar gyfer pobl ifanc ym mlwyddyn 11 a oedd yn ei chael yn anodd cael gafael ar gyfrifiadur.
Mae’r pecyn diweddaraf wedi dod gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cydnabod y broblem ac wrthi’n mynd i’r afael â datrys pethau yn y tymor hir er budd disgyblion Wrecsam.
Bydd y 2,230 o liniaduron ar gael i blant blwyddyn 4 a hŷn sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sydd heb ddyfais gartref y gellid ei defnyddio ar gyfer eu gwaith ysgol.
Dywedodd Matt Vickery, Pennaeth Ysgol Clywedog: “Diolch i’r Chromebooks yma’n cyrraedd wedi’r ail gyfnod clo, yn ogystal â haelioni rhieni, staff a Sefydliad Newmark yn ystod y cyfnod cyntaf, mae gennym bellach liniadur ar gael i bob myfyriwr ym mlynyddoedd 10 ac 11, a phawb sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mlynyddoedd 7, 8 a 9. Rydyn ni hefyd wedi llwyddo â chais i BT a Vodafone i gael cysylltiad WiFi i bawb sydd angen un.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
“Mae’r gliniaduron gan Lywodraeth Cymru hefyd yn golygu bod modd inni roi gliniadur i fynd adref i bob disgybl newydd yn yr ysgol a phob un sy’n dod yn gymwys o’r newydd i dderbyn prydau ysgol am ddim.” Ni ddylai’r un disgybl fod dan anfantais drwy beidio â chael mynediad at gyfrifiadur.
“Rydyn ni’n gallu gweld yr effaith a gafwyd yn ystod y ddau gyfnod clo o sicrhau bod ein disgyblion yn medru defnyddio’r gliniaduron. Y tro cyntaf dim ond tua 25% o’r disgyblion oedd yn ymuno â’r sesiynau byw ar-lein yn gyson, ond erbyn mis Ionawr eleni roedd y ffigwr wedi llamu i 86%.
“Mae dal i ddefnyddio’r gliniaduron a gafwyd yn rhodd, a chael mynediad at y rhai newydd gan Lywodraeth Cymru, yn golygu ein bod yn ffyddiog y bydd unrhyw ddisgyblion sy’n gorfod hunan-ynysu yn y dyfodol yn meddu ar bopeth sydd ei angen i ddal ati i dderbyn eu haddysg.”
Meddai Catrin Pritchard, Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd: “Mae’r gliniaduron wedi bod yn bwysig iawn inni yma yn Ysgol Morgan Llwyd. Ein bwriad wrth i’r cyfnod clo ddod i ben oedd sicrhau nad oeddem yn gadael i’r un disgybl i stryffaglu ar ben ei hun.
“Fe ddechreuon ni drwy wneud yn siŵr fod gan bob disgybl yr offer angenrheidiol, gan roi blaenoriaeth i’r rheiny oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, fel bod gan yr holl ddisgyblion gyfle cyfartal i ddysgu. Pan ddaeth y disgyblion yn ôl i’r ysgol fe wnaeth arian gan Lywodraeth Cymru ein helpu i gyflogi mentoriaid i gefnogi’r disgyblion hynny oedd wedi gwneud llai o waith ysgol yn ystod y cyfnodau clo.
“Mae pawb yn gobeithio’n arw na fydd yn rhaid inni ddychwelyd i ddysgu gartref, ond rydyn ni’n dal yn gweithio i wneud yn siŵr fod gan bob un o’n disgyblion y cyfarpar sydd arnynt ei angen i gael mynediad at yr holl gyfryngau dysgu digidol rydyn ni’n eu defnyddio. Os ydi’ch plentyn chi’n mynd i Ysgol Morgan Llwyd, yn cael prydau ysgol am ddim a heb offer i fynd ar-lein gartref, cysylltwch â ni i weld a fedrwn ni ddarparu’r offer”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Pobl – Addysg: “Mae derbyn y gliniaduron yma’n newyddion bendigedig i gymaint o ddisgyblion a gafodd eu cau allan yn ddigidol. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am fynd i’r afael â phroblem y mae cymaint o blant wedi’i hwynebu, a chydnabod na ddylai unrhyw blentyn fynd heb addysg oherwydd methu â fforddio prynu offer digidol.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’n hadran TGCh sydd wedi gwneud ymdrech aruthrol wrth sicrhau fod yr holl liniaduron wedi’u gosod yn iawn fel bod modd eu defnyddio gyda seilwaith TG yr ysgolion. Nid ar chwarae bach y gwnaethon nhw hynny, ond fe olygodd y gallai’r disgyblion elwa i’r eithaf ar eu cyfrifiaduron newydd.”
Gydol y pandemig mae Tîm Cymorth TGCh Cyngor Wrecsam wedi rhoi llawer iawn o gymorth i ysgolion er mwyn sicrhau y gallai’r disgyblion wneud y gorau o ddysgu’n ddigidol. Dyma ambell rai o’r prosiectau y buont yn gweithio arnynt:
- Diweddaru seilwaith TG yr holl ysgolion yn sgil buddsoddiad o £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Drawsnewid yr Hwb a Thechnoleg Addysg. Mae hynny’n golygu y gall systemau TG yr ysgolion gefnogi’r cwricwlwm newydd gan ystyried y pwyslais cynyddol ar integreiddio technoleg ddigidol ar gyfer dysgwyr ac athrawon.
- Mae’r holl ysgolion bellach yn defnyddio gwasanaeth WebSafe Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus sy’n rhoi band eang llawer gwell iddynt.
- Drwy weithio â Llywodraeth Cymru ac ysgolion Wrecsam rydym wedi darparu cefnogaeth ddigidol gyson i bobl ifanc y sir a gafodd eu cau allan yn ddigidol, gan ddarparu gliniaduron ail-law, Chromebooks newydd sbon a dyfeisiau symudol i gysylltu â’r rhyngrwyd (MiFi). Mae Cyngor Wrecsam wedi darparu oddeutu 380 o ddyfeisiau ychwanegol drwy adnewyddu hen liniaduron a ddefnyddiwyd mewn ysgolion a swyddfeydd.
- Pennu gosodiadau 125 o liniaduron Chromebook a roddwyd gan Sefydliad Newmark a’u dosbarthu i’r disgyblion hynny ym mlwyddyn 11 oedd angen cefnogaeth ddigidol.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL