Efallai nad yw’n amlwg ar y pryd, ond mynd i’r ysgol yw un o’r pethau pwysicaf a wnawn ni yn ein bywydau. Gallai osod cyfeiriad gweddill ein bywyd.
I’r gwrthwyneb, gallai peidio mynd i’r ysgol osod cyfeiriad ein bywydau ni hefyd…ond heb ganlyniadau cystal.
Felly mae Cyngor Wrecsam yn cydweithio’n agos ag ysgolion, rhieni a disgyblion i geisio helpu plant a phobl ifanc i fynd i’r ysgol bob dydd.
Mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth
Pam gwneud môr a mynydd o golli’r ysgol? Ydi colli diwrnod neu ddau yma ac acw yn gwneud gwahaniaeth go iawn?
Ystyriwch hyn…
Mae plant sy’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd yn dysgu mwy ac yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus ym mhob rhan o’u bywydau.
Mae plant sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd yn cael canlyniadau salach yn eu harholiadau, yn cael trafferth cynnal cyfeillgarwch ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o droseddu.
Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o golli allan ar goleg, prifysgol a chyfleoedd am waith ar ôl gadael yr ysgol.
Felly ar wahân i achosion o salwch, dylai plentyn osgoi colli cymaint o ddyddiau ysgol ag sy’n bosib. Gall yr amser rydym ni’n ei dreulio yn yr ysgol gael effaith sylweddol ar ein bywydau.
Paratoi ar gyfer y byd gwaith
Nid arholiadau a chymwysterau yw diwedd y gân chwaith. Mae’r byd gwaith yn mynd yn fwyfwy cystadleuol ac mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi presenoldeb a phrydlondeb da.
Mewn geiriau eraill, maen nhw eisiau cyflogi pobl y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw i ddod i’r gwaith…ar amser.
Mae disgwyl i blant a phobl ifanc fynychu’r ysgol am 190 o ddyddiau’r flwyddyn. Dyna i chi 38 wythnos allan o 52. Os gallan nhw wneud hynny, maen nhw’n buddsoddi yn eu dyfodol… ac yn dysgu’r ddisgyblaeth y mae ei hangen i gael a chadw swydd.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Sut mae helpu disgyblion i ddod yn ôl ar y trywydd cywir?
Pan fydd plentyn yn cael trafferth go iawn, bydd gweithwyr cymdeithasol addysg yn helpu’r ysgol i roi cynllun presenoldeb chwe-wythnos ar waith.
Bydd y cynllun yn cynnwys targedau ar gyfer y disgybl a’r rhieni, i’w helpu i gynyddu eu presenoldeb dros amser.
Buom yn siarad ag un person ifanc yn ddiweddar a oedd wedi elwa ar ychydig o gymorth.
Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud…
“Dos i siarad â rhywun”
Sut oeddet ti’n teimlo am yr ysgol pan nad oeddet ti’n mynd yno’n rheolaidd?
“Roedd mam yn sâl iawn gyda thiwmor ar ei hymennydd. Roeddwn i’n crio’n aml ac yn teimlo’n nerfus iawn am nad oeddwn i eisiau gadael mam.
“Roedd rhaid i mam gerdded gyda mi i’r ysgol ac fe fyddwn i’n cydio’n dynn ynddi ac yn gwrthod gollwng fy ngafael arni…am nad oeddwn i eisiau ei gadael hi na mynd i’r ysgol.
“Roeddwn i’n teimlo’n bryderus am fynd i’r ysgol uwchradd am fy mod i newydd adael Blwyddyn 6, ac roedd gen i ofn.
“Roedd yn waeth pan oedd rhaid i mi fynd yn ôl i’r ysgol ar ddiwedd gwyliau a phenwythnosau. Roeddwn i’n nerfus iawn ynglŷn â mynd yn ôl yr adeg hynny…am fy mod i wedi treulio amser gyda mam a bod rhaid i mi ei gadael hi eto.”
Pa fath o gymorth gefaist ti i dy helpu i fynd i’r ysgol yn amlach?
“Fe dreuliais i, a mam, dipyn o amser gyda’r swyddog cefnogi presenoldeb yn fy ysgol. Roedd mam yn mynd am goffi gyda hi am ei bod hithau’n poeni amdana’ i hefyd.
“Doedd gen i ddim llawer o ffrindiau bryd hynny…felly fe fyddwn i’n mynd i ystafell y gweithiwr cymdeithasol addysg amser egwyl ac amser cinio i sgwrsio gyda’r gweithiwr cymdeithasol addysg a’r swyddog cefnogi presenoldeb.
“Fe wnaethon nhw helpu cryn dipyn arna’ i, ac fe gychwynnais i ymddiried ynddyn nhw. Rydw i’n ymddiried yn fawr ynddyn nhw bellach. Roedden nhw’n gadael i mi ffonio adref i wneud yn siŵr fod mam yn iawn pan oeddwn i’n poeni amdani hi.
“Roeddwn i’n hoffi’r syniad yma am ei fod yn fy helpu i beidio poeni cymaint am mam, ac roedd yn helpu mam i beidio poeni cymaint amdana’ innau hefyd.”
Sut wyt ti’n teimlo am yr ysgol erbyn hyn?
“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd o wahanol ysgolion ac wedi egluro fy sefyllfa iddyn nhw – beth sydd wedi digwydd – ac fe wnaethon nhw wrando arna’ i.
“Maen nhw wedi bod yn garedig iawn gyda fi. Rydw i’n teimlo’n llawer hapusach yn yr ysgol erbyn hyn, ac mae gen i fwy o hyder.
“Mae pawb wedi bod mor gefnogol, ac mae hyn wedi bod o help mawr i mi.
“Fe alla’ i fynd i weld y swyddog cefnogi presenoldeb neu’r gweithiwr cymdeithasol addysg o hyd os ydw i’n poeni neu’n bryderus, sy’n fy helpu i.”
Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth ddisgybl arall sy’n cael trafferth mynd i’r ysgol? Oes yna unrhyw gyngor fyddet ti’n ei roi?
“Dos i siarad gyda rhywun, fel nad wyt ti’n teimlo mor unig nac ofnus. Gofyn am help. Chwilia am rhywun y galli di ymddiried ynddyn nhw, ac fe wnân nhw dy helpu di.
“Paid â bod ofn mynd i’r ysgol uwchradd. Dydi o ddim yn brofiad mor ddychrynllyd ag mae pobl yn ei ddychmygu.”
Paid â gadael i broblemau grynhoi
Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar Cyngor Wrecsam: “Fel rhiant, un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i’n plant yw gwneud yn siŵr eu bod nhw’n mynd i’r ysgol.
“Rydym ni i gyd eisiau i’n plant gael y cyfle gorau mewn bywyd, ac mae hynny’n cychwyn gydag addysg. Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn fuddsoddiad yn eu dyfodol.
“Yn yr ysgol y mae plant yn dysgu meithrin cyfeillgarwch, gweithio fel tîm, gweithio i amserlen a bod yn brydlon.
“Dyma’r sgiliau bywyd fydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol, p’un a fydd hynny’n golygu astudio am gymwysterau pellach, cychwyn ar brentisiaeth neu gael swydd ac ymdopi â heriau bywyd o ddydd i ddydd.”
Lle i fynd am gymorth
Os ydych chi’n poeni am bresenoldeb eich plentyn, ewch i siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw yn yr ysgol.
CYSYLLTWCH Â’CH YSGOL