Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2021/09/17 at 2:20 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Residents are getting to know RITA in care homes across Wrexham
RHANNU

Mae’r Tîm Comisiynu a Chontractau wedi cydweithio â My Improvement Network i ddarparu nifer o ddyfeisiau RITA i ddarparwyr gofal, gyda chyllid gan Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru.

Cynnwys
Beth yw RITA?Adborth hyd yma

Beth yw RITA?

Mae gan RITA (Reminiscence Interactive Therapy Activity) ddatrysiad sgrin gyffwrdd rhyngweithiol sy’n darparu platfform hel atgofion â monitor 24” y gellir ei symud o gwmpas, neu dabled 10” i’w ddefnyddio 1-1.

Gwnaeth 21 darparwr gofal ar draws Wrecsam gyflwyno cais a llwyddo i gael RITA. Mae’n rhoi mynediad i’r rheiny sydd yn byw â dementia at apiau, gemau a gweithgareddau hamdden eraill fel rhan o’u hadferiad.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Gellir personoli’r system i anghenion unigolyn, ac mae’n bwerus ar gyfer darparu parhad gofal.

Gellir crynhoi straeon bywyd digidol mewn llyfr, ac mae nifer o wahanol osodiadau – synhwyraidd, ymlacio, amser bwyd, therapi cwsg, gardd ddigidol a llawer mwy.

Er mai prif bwrpas RITA yw gwella ansawdd bywyd a lles, ni ellir anwybyddu’r canlyniadau i unigolion sy’n defnyddio’r ddyfais, h.y. llai o gwympiadau, llai o orbryder a phrofiadau gwell i’r unigolyn, eu teuluoedd a’r staff.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn falch iawn gyda’r effaith mae dyfeisiau RITA yn ei chael mewn cartrefi gofal ledled Wrecsam. Mae’r dyfeisiau’n caniatáu i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau a sgyrsiau ystyrlon, gan wella eu lles a’u hansawdd bywyd. Maent wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae darparwyr gofal yn gweld gwelliannau mawr mewn llawer o bobl, sy’n newyddion gwych.”

Adborth hyd yma

Bev Griffiths, Rheolwr, Emral House:
“Gwnaethom gynnig i ŵr Eidalaidd sy’n gaeth i’w wely ddefnyddio RITA. Roedd yn gallu gwrando ar gerddoriaeth Eidalaidd a chlipiau eraill (mae RITA ar gael mewn nifer o ieithoedd) a oedd o ddiddordeb iddo. Fel arfer, byddai’r gŵr hwn angen sylw’r staff, ond pan gafodd RITA, ni chlywsom ganddo. Nawr pan fydda i’n ei weld, mae’n gofyn i mi am fy ffôn (cyfeirio at dabled RITA). Am wahaniaeth mae hyn wedi’i wneud mewn cyfnod mor fyr.”

Julie, Cydlynydd Gweithgareddau, Cartref Gofal Chirk Court:
“Mae hwn yn wych. Mae’r preswylwyr yn manteisio eisoes ar gael mynediad at nifer o wahanol weithgareddau ar RITA. Yn ddiweddar, buom yn ei ddefnyddio i ganu, chwarae caneuon o wahanol wledydd, ac fe gododd hwyliau’r preswylwyr yn syth. Nid yw dyfyniad gan ddynes 101 oed “yn dechnoleg anhygoel nawr” roedd hi wrth ei bodd â’r canu ac acwariwm ymhlith pethau eraill.”

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Lisa Fox, Canolfan Enfys Llannerch Banna:
“Mae’r bobl sy’n dod i’r ganolfan wedi croesawu hwn yn fawr. Hyd yma, rydym wedi cael amser cwis, cerddoriaeth hel atgofion, ac mae gêm ‘whack-a-mole’ yn boblogaidd! Rydym yn brysur yn creu proffiliau personol unigolion sy’n arbennig ar eu cyfer nhw, a chasgliad o’u hoff bethau ar RITA y maen nhw’n eu mwynhau.”

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Residents are getting to know RITA in care homes across Wrexham
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Andrea, Cydlynydd Gweithgareddau, Cartref Gofal Stansty House:
“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ni gael RITA a gallaf ei ddefnyddio bob dydd i ryngweithio gyda’r preswylwyr. Mae’n roi cyfle i mi wneud rhywbeth gwahanol. Cynigiwyd RITA i ddynes sy’n gaeth i’w gwely ac nad yw’n gallu ymuno â’r preswylwyr eraill. Bu’n mwynhau caneuon, clipiau o ffilmiau a chododd ei hwyliau’n syth. Mae’r preswylwyr yn mwynhau’r allweddellau, yr adnodd paentio, ac rydym wedi codi sied RemPod yn ddiweddar, sy’n cael ei fenthyg gan y Tîm Comisiynu a Chontractau.”

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam
Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Alison Langford, Cydlynydd Gweithgareddau, Cartref Gofal Penygarth:
“Mae RITA wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r preswylwyr. Dyma Derek yn hel atgofion am ddyddiau a fu….”

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Irene yn mwynhau’r ap 360, yn enwedig dan y môr…

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Linda yn mwynhau chwarae gêm snakes and ladders…

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Merched yn gwylio ‘Move it or Lose it’ cyn gwneud yr ymarferion eu hunain…

Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 50+ Nodyn briffio ar Covid-19 – brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer pobl 50 oed a hŷn a brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed
Erthygl nesaf Children's Services Bwrdd Gweithredol Medi 2021 – cip ar y rhaglen

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

off-gas
Pobl a lle

Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English