Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nodyn briffio ar Covid-19 – brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer pobl 50 oed a hŷn a brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Nodyn briffio ar Covid-19 – brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer pobl 50 oed a hŷn a brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed
ArallY cyngor

Nodyn briffio ar Covid-19 – brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer pobl 50 oed a hŷn a brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2021 2:45 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
50+
RHANNU

Dyma grynodeb o’r wybodaeth Covid-19 ddiweddaraf sy’n effeithio ar Wrecsam…

Cynnwys
  • Trwydded Covid ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos
  • Cymerwch frechiad
    • Brechiad atgyfnerthu i bobl dros 50 oed
    • Un brechlyn ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed
  • Uned brofi symudol yn Johnstown
  • Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion
  • Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau
  • Dolenni defnyddiol

(Ond, os nad oes gennych chi amser i’w darllen, y neges yn syml ydi – cymerwch frechiad!)

Trwydded Covid ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos

Heddiw cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru y bydd rhaid i bobl cael trwydded Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau o fis nesaf. Mae’r mesur yn cael eu cyflwyno er mwyn helpu rheoli’r lledaeniad y firws, gan fod achosion yng Nghymru yn uchel ar hyn o bryd.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cymerwch frechiad

Os ydych chi’n cael cynnig brechiad, cymerwch o.

Brechlyn ydi’r ffordd orau i gadw’n ddiogel a byw bywyd ychydig yn fwy normal.

Os ydych chi eisoes wedi cael cynnig brechiad ac wedi’i wrthod, dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi ailfeddwl.

Mae trefnu apwyntiad i dderbyn eich brechlyncyntaf neu’ch ail frechlyn cyn hawsed ag erioed ????????????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Brechiad atgyfnerthu i bobl dros 50 oed

Yn gynharach yr wythnos hon argymhellodd y Cyd-Bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylai unigolion dros 50 oed dderbyn brechiad atgyfnerthu.

Dylid rhoi’r brechiad atgyfnerthu o leiaf 6 mis ar ôl yr ail frechiad.

Mae brechiad atgyfnerthu hefyd yn cael ei argymell ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn yn ogystal â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Argymhellir hefyd bod unigolion 16-49 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, ac oedolion sy’n byw gydag unigolion imiwnoataliedig, hefyd yn derbyn y brechiad atgyfnerthu.

Os ydych chi’n gymwys, does dim rhaid i chi drefnu apwyntiad – byddwch yn derbyn apwyntiad yn eich tro.

Gallwch ddarllen mwy ar wefan y bwrdd iechyd lleol.

Un brechlyn ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig un brechlyn Pfizer.

Yn ogystal â darparu rhywfaint o fudd iechyd, bydd hyn yn helpu i leihau lledaeniad y feirws ac atal amhariadau pellach i addysg a chymunedau.

Bydd y bwrdd iechyd lleol yn dechrau brechu’r grŵp oedran yma ddydd Llun 4 Hydref a bydd yn ysgrifennu at rieni gyda rhagor o wybodaeth.

Bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr roi caniatâd.

Uned brofi symudol yn Johnstown

Mae’r uned brofi symudol yn dychwelyd i Johnstown i wneud pethau ychydig yn haws i drigolion lleol dderbyn prawf Covid-19.

Mae’r cyfleuster mynediad hawdd yn cynnig profion PCR yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown rhwng 9:30am a 5pm bob dydd Llun hyd nes clywch yn wahanol.

Bydd yr uned brofi symudol yn dychwelyd i Johnstown bob dydd Llun – ac maent bellach yn darparu profion PCR

Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion

Drwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru fe allwch chi helpu i gadw Covid draw o’r ystafell ddosbarth yr hydref hwn…

  1. Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
  2. Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
  3. Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
  4. Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
  5. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.

5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn

Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau

Atgoffir pobl bod yn rhaid iddyn nhw ateb galwadau ffôn gan weithwyr olrhain cysylltiadau a dilyn unrhyw gyngor a ddarperir.

Yn ôl Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam mae yna lond llaw o bobl sy’n parhau i anwybyddu galwadau a chyngor, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.

Darllenwch fwy…

Dolenni defnyddiol

  • Sut i drefnu apwyntiad i dderbyn brechlyn (gogledd Cymru)
  • Sut i archebu prawf Covid
Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Noson Gomedi Tŷ Pawb yn dychwelyd ddydd Gwener yma! Mae Noson Gomedi Tŷ Pawb yn dychwelyd ddydd Gwener yma!
Erthygl nesaf Residents are getting to know RITA in care homes across Wrexham Mae ‘RITA’ wedi cyrraedd Cartrefi Gofal ar draws Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English