Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam yn gofyn i bobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg byr iawn gyda dau gwestiwn er mwyn helpu penderfynu pa faes i ganolbwyntio arno i leihau newid hinsawdd yn Wrecsam.
Mae’r ymgynghoriad yn fyw tan 4 Medi, ac mae croeso i unrhyw un sy’n 11-25 oed gyda chysylltiad â Wrecsam gymryd rhan.
Mae Senedd yr Ifanc yn cynrychioli pobl ifanc yn Wrecsam, gan sicrhau y caiff eu barn ei chlywed, yn arbennig pan fod penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n effeithio arnynt.
Er mwyn eu helpu i wneud y gwaith hwn, gofynnodd Senedd yr Ifanc i bobl ifanc Wrecsam pa faterion roeddynt yn teimlo oedd y rhai pwysicaf sy’n effeithio arnyn nhw. Cymerodd 1,746 o bobl ifanc 11-25 oed ran yn y bleidlais hon.
Ein Hamgylchedd
Y prif fater i bobl ifanc oedd ‘Ein Hamgylchedd’, a fydd rŵan yn flaenoriaeth i Senedd yr Ifanc am y ddwy flynedd nesaf.
Mae Senedd yr Ifanc eisiau gwybod rŵan ar ba faes o Ein Hamgylchedd yr hoffai pobl ifanc Wrecsam weithio arno.
Dywedodd Caroline Bennett, Cydlynydd Cyfranogiad: “Datblygwyd ymgynghoriad dau gwestiwn cyflym lle gofynnwyd i bob ifanc ddewis rhwng chwe maes gwahanol lle gellir lleihau newid hinsawdd. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn pa un o’r chwech fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar Wrecsam.
“Felly, os ydych chi’n 11-25 oed a bod gennych gysylltiadau â Wrecsam, cymerwch amser i’n helpu ni ac ymateb i’r arolwg byr iawn hwn, a fydd yn fyw tan 4 Medi.”
Ein Hamgylchedd – DWEUD EICH DWEUD
DWEUD EICH DWEUD