Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol.
Y cyngor

Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol.

Diweddarwyd diwethaf: Awst 26, 2021 11:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mae tocyn a brynir unwaith a ellir ei ddefnyddio ar fysiau ledled Gogledd Cymru wedi ei gyhoeddi’n swyddogol.
RHANNU

Ar ddydd Mawrth, 24 Awst yn y Rhyl cyhoeddwyd y tocyn 1Bws, a ellir ei ddefnyddio i deithio ar fysiau ledled Gogledd Cymru.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2021/22! Cofrestrwch cyn 30 Awst er mwyn cael 12 mis llawn.

Roedd cwmnïau bysiau o Ogledd Cymru yn bresennol yn y lansiad, a gynhaliwyd yn yr Arena Ddigwyddiadau Rhyl, yn ogystal â gwesteion o gynghorau Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Conwy, aelodau Seneddol a swyddogion o Drafnidiaeth Cymru.

Mae tocyn oedolyn yn costio £5.70, bydd plentyn yn talu £3.70 a bydd deiliaid tocynnau bysiau consesiwn o Loegr a’r Alban hefyd yn talu £3.70.

Mae tocyn teulu ar gael am ddim ond £12.

Mae un tocyn yn ddilys trwy’r dydd ar fysiau yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn ac yn Nghonwy ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.

Mae bysiau yn gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r rhanbarth ac mae’n bosib crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r fenter hon, a fydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith bws helaeth.

“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o gael pobl yn ôl ar fysiau ac agor Gogledd Cymru i fyny mewn ffordd sy’n amddiffyn yr amgylchedd.

“Mae’r tocyn hwn yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng cwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol. Bu’n bosib cyflwyno’r tocyn hwn gan fod y sector cyhoeddus a phreifat, cwmnïau bysiau mawr a bach, i gyd wedi cydweithio.”

Dywedodd Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Rhanbarthol Arriva: “Mae cyflwyno’r tocyn 1Bws yn ganlyniad gwaith partneriaeth agos yng Ngogledd Cymru rhwng cwmnïau ac awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i gwsmeriaid presennol a defnyddwyr newydd posib, gan y bydd y cynnyrch newydd yn gwneud teithio ar fws yn fwy cyfleus a haws.

“Mae bysiau yn gyfrannwr pwysig i economi Gogledd Cymru a bydd yn allweddol wrth annog adferiad gwyrdd a chynaliadwy o’r pandemig.”

Mae gwybodaeth am amserlenni’r holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar http://bustimes.org neu www.traveline.cymru; neu trwy ffonio 0800 464 00.

Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol yng Ngogledd Cymru heblaw gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.

Hefyd nid yw’n ddilys ar wasanaethau twristaidd a weithredir gan fysiau to agored, ar wasanaethau coetsis National Express a gwasanaethau parcio a theithio.
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar-lein.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] ADNEWYDDWCH EICH CASGLIADAU BIN GWYRDD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad tatŵ milwrol elusennol i gael ei gynnal yn Wrecsam Digwyddiad tatŵ milwrol elusennol i gael ei gynnal yn Wrecsam
Erthygl nesaf Gwelliannau gwerth £3.9 miliwn ar gyfer Ysgol yr Hafod, Johnstown Gwelliannau gwerth £3.9 miliwn ar gyfer Ysgol yr Hafod, Johnstown

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English