Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Tŷ Pawb yn gwneud rhywbeth rhyfeddol gydag un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae Tŷ Pawb yn gwneud rhywbeth rhyfeddol gydag un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Mae Tŷ Pawb yn gwneud rhywbeth rhyfeddol gydag un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 31, 2019 5:38 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae Tŷ Pawb yn gwneud rhywbeth rhyfeddol gydag un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam
RHANNU

Mae ffatri hanesyddol ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam wedi ysbrydoli arddangosfa newydd yn agor yn Ty Pawb ym mis Chwefror.

Cynnwys
  • Dathliad o Dreftadaeth Wrecsam
  • Dewch i weld!

Efallai y bydd Tŵr Redwither bellach yn rhan o barc busnes ffyniannus, ond a oeddech chi’n gwybod ei fod unwaith yn ffatri fawr ar gyfer cynhyrchu edafedd, nyddu a gwau?

Adeiladwyd y ffatri yn y canol 1950au gan British Celanese, ac fe’i cymerwyd gan Courtauld yn 1958. Bu bron i 2,000 o bobl yn gweithio ar y safle pan oedd yn cynhyrchu brig, gan gynnwys Rayon, y ffibr a gynhyrchwyd gyntaf.

Bydd arddangosfa newydd yn Tŷ Pawb ‘Twist i Fyny Twist i Lawr’ – a enwyd ar ôl dwy adran o’r ffatri – yn dathlu’r rhan bwysig hon o dreftadaeth ddiwydiannol Wrecsam.

SIARADWR CYMRAEG? LLENWI EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN!

Dathliad o Dreftadaeth Wrecsam

Ar ddiwedd 2018 cyhoeddodd Tŷ Pawb wahoddiad i gyn-staff gysylltu a rhannu atgofion a ffotograffau o’r ffatri. Mae’r rhai a ddaeth ymlaen ers hynny wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r artist Don Braisby, a myfyrwyr o Goleg Cambria i greu gwaith newydd ar ffilm a ysbrydolwyd gan y broses wehyddu, atgofion y ffatri, a’r adeilad ffatri ei hun.

Crëwyd peth o waith y myfyrwyr o fewn yr hen adeilad ffatri, fel y dangosir yn y ddelwedd uchod.

Meddai Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Rydym yn ddiolchgar iawn i staff y ffatri sydd wedi bod mor hael gyda’u hamser, eu gwybodaeth a’u ffotograffau gwerthfawr ar gyfer yr arddangosfa hon, ac mae wedi bod yn wych gweld faint y mae’r myfyrwyr wedi’u hysbrydoli gan yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

“Mae teitl yr arddangosfa ‘Uptwist Downtwist’ yn cyfeirio at adrannau yn y ffatri, ac i symudiadau’r myfyrwyr ar ffilm. Bydd deunydd archifol a gwaith y myfyrwyr yn cael ei ddangos ochr yn ochr â gwaith ffilm, cerflunwaith a thecstilau gan yr arlunydd cyfoes Will Cruickshank; gan wahodd ystyried y cyfochrog rhwng proses gwneud yr artist a’r prosesau gwehyddu yn ffatri Celanese.

“Rydym yn hynod gyffrous am y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer yr arddangosfa, gan yr artistiaid a’r myfyrwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at wahodd pawb i ddod i ddarganfod mwy am y rhan gyfoethog a diddorol hon o dreftadaeth Wrecsam.

Bwriad yr arddangosfa yw cyd-fynd â’n harddangosfa Grayson Perry sy’n cynnwys tapestri mawr ar ffabrig. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gwefyddu rhywfaint o hanes Wrecsam i’r thema hon. ”

Dewch i weld!

Dywedodd Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cyng Hugh Jones: “Mae Tŷ Pawb yn parhau i fynd o nerth i nerth gyda’i raglen gelfyddyd fywiog a’r cysylltiadau sydd yn cael eu gwneud rhwng y celfyddydau a threftadaeth leol Wrecsam, pobl a sefydliadau.

“Mae’r gwaith a gynhyrchir gan y myfyrwyr yn Coleg Cambria yn edrych yn wych ac rydym oll yn edrych ymlaen at ei weld yn yr arddangosfa. Dylid canmol pawb sy’n cymryd rhan am eu gwaith ar y dull arloesol hwn o ddehongli hanes Wrecsam.”

Bydd Twist i Fyny Twist i Lawr a Julie Cope’s Grand Tour: The Story of Life gan Grayson Perry yn cael eu harddangos yn Tŷ Pawb o Chwefror 23 – Ebrill 22.

Cysylltwch a Tŷ Pawb am fwy o wybodaeth:
01978 292144
typawb@wrexham.gov.uk

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Plumber Plumbing Job Vacancy Ydych chi’n blymwr sy’n chwilio am waith? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Erthygl nesaf Datganiad Sefyllfa ynglŷn â Raw Juice Datganiad Sefyllfa ynglŷn â Raw Juice

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English