Mae canlyniadau ymgynghoriad diweddar y Grŵp Tasg a Gorffen i effeithiau misglwyf yn yr ysgol bellach ar gael, a dywedodd 28% o’r ymatebwyr eu bod wedi methu’r ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd nad oedd ganddynt fynediad at gynnyrch glanweithiol. Yn ogystal â hynny, cyfaddefodd 38% o ddisgyblion blwyddyn 7 y bu’n rhaid iddynt fethu’r ysgol yn yr ysgol gynradd.
Holwyd disgyblion benywaidd yn ddiweddar ynghylch mynediad at gynnyrch glanweithiol mewn ysgolion ac a ydynt yn methu’r ysgol o bryd i’w gilydd oherwydd eu misglwyf.
Adroddwyd y canlyniadau i’r Pwyllgor Craffu Dysgu Gydol Oes a oedd wedi cael clywed bod cynnyrch glanweithiol a chyfleusterau gwastraff glanweithiol ar gael ym mhob ysgol, ond nid yw disgyblion bob amser yn ymwybodol ohonynt. Mae gwahaniaeth hefyd rhwng lle mae’r cynnyrch glanweithiol ar gael a sut mae disgyblion yn dymuno cael mynediad atynt. Roedd yn well gan ddisgyblion ddefnyddio peiriannau gwerthu neu focsys yn y toiledau, ond roedd staff ar y llaw arall yn dymuno cael mynediad anuniongyrchol atynt drwy aelod o staff enwebedig.
Dengys yr ymgynghoriad hefyd bod bob ysgol yn darparu cyfleusterau gwastraff glanweithiol, ond nid yw bob un ohonynt yn unol â chanllaw Llywodraeth Cymru ar y mater.
Gofynnom hefyd am y mathau o gynnyrch glanweithiol y byddai disgyblion yn dymuno iddynt fod ar gael yn eu hysgol, ac yn gyffredinol, tyweli a thamponau oedd y ffafriaeth.
Roedd llai na 50% o’r ymatebwyr yn credu bod dewis ac ansawdd y cynnyrch sydd ar gael yn addas, a nifer ohonynt yn nodi yn eu sylwadau bod angen mwy o ddewis ar gyfer disgyblion.
Daeth rhai negeseuon allweddol eraill i’r amlwg yn ogystal, megis mynediad at doiledau yn ystod diwrnod ysgol a sut y gall ddisgyblion ddarganfod mwy am ddarpariaeth cynnyrch glanweithiol.
Mae’r Grŵp wedi canmol prosiect WINGS Wrecsam. Dan y prosiect, mae cynnyrch glanweithiol bellach ar gael mewn ysgolion gan athro/athrawes enwebedig gyda chysylltiadau â gwasanaethau cymorth i ddisgyblion a disgybl-llysgenhadon enwebedig a nodwyd y manteision ar gyfer y dull hwn o ddosbarthu. Fodd bynnag, teimlir yn unol â’r barn a fynegwyd yn yr ymgynghoriad, mai nid y dull hwn o ddosbarthu yn unig y dylid ei gynnig, a dylid sicrhau bod silffoedd dosbarthu ar gael fel opsiwn arall i ddisgyblion.
Teimla’r grŵp y dylid blaenoriaethu cyllid grant refeniw cyfyngedig y Llywodraeth fel a ganlyn:-
• darparu mynediad uniongyrchol at dyweli glanweithiol ym mhob Ysgol Uwchradd o fewn ciwbiclau’r toiledau, gyda thamponau hefyd ar gael ar gais gan aelod o staff enwebedig, yn unol â chanllaw addysg.
• Rhywfaint o ddarpariaeth tyweli glanweithiol ym mhob ysgol gynradd
Mae gofyn i’r Pennaeth Addysg gyflwyno Adroddiad Gwybodaeth ar wariant cyllid grant Llywodraeth Cymru ym Mawrth 2019.
Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn anfon yr adroddiadau a’r argymhellion ymlaen at Weinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru, ynghyd ag amlinelliad o’r angen parhaus am gyllid penodol a digonol i fynd i’r afael â’r broblem o dlodi misglwyf.
Bydd y Pennaeth Addysg yn rhoi gwybod i bob ysgol y dylid darparu biniau gwastraff glanweithiol ym mhob ciwbicl toiled sy’n addas o ran oedran, fel yr argymhellir yng nghanllaw Llywodraeth Cymru ac fel y nodir ym Mholisi Hylendid Ysgolion y Cyngor, a dylid ystyried archwilio costau presennol y ddarpariaeth gyda’r bwriad o wella mynediad at cyfleusterau gwastraff glanweithiol ym mhob ysgol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cytundebau caffael.
Bydd y Pennaeth Addysg hefyd yn parhau i gipio cyfleoedd i weithio â grwpiau gwirfoddol a busnesau i gyfrannu at ddarpariaeth cynnyrch glanweithiol benywaidd am ddim ar gyfer ysgolion yn yr hir dymor (e.e. mae cynllun WINGS yn darparu ac yn hybu cynnyrch glanweithiol benywaidd mewn ysgolion, a gellir cael mynediad atynt gan athro/athrawes enwebedig gyda chysylltiadau â gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a disgybl-llysgenhadon enwebedig).
Bydd adroddiad cynnydd ar gael mewn 18 mis.
Gellir cael golwg arno yma
Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, y Cyng Carrie Harper: “Ar ran y grŵp, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Bydd y canlyniadau yn helpu i wella sefyllfa ein disgyblion benywaidd, a’r gobaith yw y byddant yn gallu cael mynediad at gynnyrch glanweithiol addas ac am ddim yn y dyfodol.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN