Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae ysgolion Wrecsam yn mwynhau arddangosfa BMX ysblennydd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae ysgolion Wrecsam yn mwynhau arddangosfa BMX ysblennydd!
Busnes ac addysg

Mae ysgolion Wrecsam yn mwynhau arddangosfa BMX ysblennydd!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2025 2:33 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
M
Matti Hemmings
RHANNU

Cafodd disgyblion mewn sawl ysgol ledled Wrecsam arddangosfa BMX ysblennydd ar ôl dangos eu hymrwymiad i gerdded a beicio!

Roedd The Big Walk and Wheel yn ddigwyddiad cenedlaethol a drefnwyd gan Sustrans yn gynharach eleni.

Roedd yn herio ysgolion ledled y DU i weld faint o deithiau cerdded a beicio y gallai eu disgyblion eu gwneud dros gyfnod o wythnos.

Y nod oedd lleihau traffig a gwella ansawdd aer o amgylch ysgolion, ac ysbrydoli plant a rhieni i gofleidio manteision iechyd a lles teithio ar droed neu feic.

Cofnododd ysgolion Wrecsam a gymerodd ran filoedd o deithiau cerdded a beicio rhyngddynt.

Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys:

  • Ysgol Bro Alun
  • Ysgol Gynradd Fictoria
  • Ysgol Pen y Gelli
  • Ysgol Llan Y Pwll (babanod)
  • Ysgol y Santes Fair Brynbo
  • Ysgol Gynradd yr Holl Saint
  • Ysgol Gynradd Holt

Ysgol Gynradd Holt enillodd y sgôr uchaf yn Wrecsam, gyda 77% o ddisgyblion yn cymryd rhan a’r ysgol yn safle 25 yn y DU yn y ‘categori ysgolion cynradd bach iawn.’

Ar y brig yn y ‘categori ysgolion cynradd mawr’ ar gyfer Wrecsam roedd yr Holl Saint yng Ngresffordd, gyda 51.9% o ddisgyblion yn cymryd rhan.

Yr wythnos hon, i wobrwyo eu hymdrechion, mae plant ym mhob un o’r saith ysgol yn Wrecsam yn cael cyfle i fwynhau arddangosfa sgleiniog o styntiau a thriciau gan y meistr BMX Matti Hemmings.

Yn ddeiliad Record Byd Guinness deirgwaith, yn Bencampwr Ewropeaidd ac yn Bencampwr y DU bum gwaith, mae Matti wedi cystadlu a pherfformio ledled y byd.

Meddai: “Rydyn ni’n cael sbri yn ein wythnos yma yn Wrecsam – mae’r plant a’r staff yn wych ac mor frwdfrydig, ac rwy’n dangos iddyn nhw rai o fy hoff driciau a styntiau!

“Mae faint o gerdded a beicio a wnaeth y myfyrwyr a’r rhieni yn ystod The Big Walk and Wheel wedi creu argraff fawr arnaf – maen nhw’n gwneud ymdrech enfawr a gobeithio y byddant yn cael eu hysbrydoli i gerdded a beicio mwy yn y dyfodol.”

Mae’r sioeau BMX yn cael eu hariannu drwy gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wyn, Aelod Arweiniol Wrecsam dros Addysg: “Da iawn i’r holl ysgolion a gymerodd ran yn The Big Walk and Wheel.

“Rhyngddynt, cofnododd ein hysgolion 4,341 o deithiau ar droed neu feic yn ystod yr wythnos honno, sy’n anhygoel.

“Fel cyngor, rydyn ni eisiau i rieni a disgyblion gerdded a beicio mwy os gallant. Rydyn ni’n gwybod nad yw bob amser yn bosibl, ond bob tro rydyn ni’n gadael y car ar ôl, mae’n helpu i leihau traffig a pharcio, ac yn helpu i wneud gatiau’r ysgol yn lle glanach a mwy diogel i bawb.

“Gall cerdded a beicio hefyd fod yn llawer o hwyl, ac yn dda i’n hiechyd a’n lles.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Marchnadoedd Wrecsam yn Dathlu Ymgyrch ‘Caru Eich Marchnad Leol’ Marchnadoedd Wrecsam yn Dathlu Ymgyrch ‘Caru Eich Marchnad Leol’
Erthygl nesaf Newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl y Banc.. Newidiadau i gasgliadau biniau yr wythnos nesaf oherwydd dydd Llun Gŵyl y Banc (26 Mai)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English